Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
(4) Rhaid i'r Comisiynydd beidio—
(a) â rhoi grant neu fenthyciad,
(b) â rhoi gwarant, neu
(c) â chaffael neu waredu unrhyw fuddiant mewn tir, ac eithrio gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
(5) Nid yw is-adran (4) yn gymwys i unrhyw beth a wneir o dan adran 9.
(6) Mae pŵer y Comisiynydd i godi ffi am roi cyngor neu am wasanaethau yn gyfyngedig i godi'r symiau sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd i adennill y gost wirioneddol neu amcangyfrif o'r gost a dynnir gan y Comisiynydd wrth roi'r cyngor hwnnw neu wrth ddarparu'r gwasanaethau hynny.

12 Staff

(1) O ran y Comisiynydd—
(a) rhaid iddo benodi person yn Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel "y Dirprwy Gomisiynydd"), a
(b) caiff benodi staff arall sy'n briodol yn ei dyb ef mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau.
(2) Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at staff y Comisiynydd yn gyfeiriadau at y Dirprwy Gomisiynydd a staff arall.
(3) Caiff y Comisiynydd dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau o staff y Comisiynydd.
(4) Caiff y Comisiynydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i aelodau o staff y Comisiynydd.
(5) Caiff y Comisiynydd dalu—
(a) pensiynau i bersonau a fu'n aelodau o staff y Comisiynydd, neu mewn cysylltiad â hwy, a
(b) symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n aelodau o staff y Comisiynydd, neu mewn cysylltiad â hwy.
(6) Rhaid i'r Comisiynydd gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru ar gyfer—
(a) nifer y staff y caniateir eu penodi,
(b) telerau ac amodau gwasanaeth y staff, ac
(c) taliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o is-adrannau (3) i (5).
(7) Rhaid i Brif Weinidog Cymru benodi'r Dirprwy Gomisiynydd—
(a) os yw swydd y Comisiynydd yn wag, neu
(b) os yw'n ymddangos i Brif Weinidog Cymru y bydd y Comisiynydd yn methu â phenodi'r Dirprwy Gomisiynydd yn unol â'r adran hon.
(8) Am ddarpariaeth ynglŷn ag uniondeb cymeriad y Dirprwy Gomisiynydd gweler Pennod 1 o Ran 8.