Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

13 Arfer swyddogaethau'r Comisiynydd gan staff

(1) Caiff y Comisiynydd ddirprwyo unrhyw un neu ragor neu'r oll o swyddogaethau'r Comisiynydd i aelod o staff y Comisiynydd.
(2) Mae swyddogaethau'r Comisiynydd yn arferadwy gan y Dirprwy Gomisiynydd—
(a) os yw swydd y Comisiynydd yn wag, neu
(b) os yw'n ymddangos i Brif Weinidog Cymru nad yw'r Comisiynydd am unrhyw reswm yn gallu arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.
(3) Os oes un o swyddogaethau'r Comisiynydd yn arferadwy gan aelod o staff y Comisiynydd yn unol ag is-adran (1) neu (2) caiff yr aelod staff, wrth arfer y swyddogaeth, ddelio ag unrhyw eiddo neu hawliau sydd wedi eu breinio yn y Comisiynydd fel pe byddent wedi eu breinio yn yr aelod staff.

14 Y weithdrefn gwyno

(1) Rhaid i'r Comisiynydd sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion ynglŷn â gweithredoedd neu anweithiau'n ymwneud ag arfer swyddogaethau'r Comisiynydd

14 y weithdrefn gwyno.

(2) Rhaid i'r weithdrefn gwyno gynnwys darpariaeth ynghylch—
(a) ym mha fodd y gellir gwneud cwyn;
(b) y person y gellir cwyno wrtho;
(c) y cyfnod a ganiateir ar gyfer dechrau a gorffen ystyried cwyn; a
(d) y camau y mae'n rhaid i'r Comisiynydd ystyried eu cymryd wrth ymateb i gŵyn.
(3) Caiff y Comisiynydd ddiwygio'r weithdrefn gwyno.
(4) Rhaid i'r Comisiynydd—
(a) sicrhau bod copi o'r weithdrefn gwyno ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a
(b) sicrhau y perir bod copïau o'r weithdrefn gwyno ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.
(5) Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at gopïau o'r weithdrefn gwyno yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant yn y weithdrefn.

15 Y sêl a dilysrwydd dogfennau

(1) Caniateir i'r Comisiynydd gael sêl.
(2) Mae dogfen—
(a) yr honnir ei bod wedi ei chyflawni'n briodol o dan sêl y Comisiynydd, neu
(b) yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y Comisiynydd, i gael ei derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i'r gwrthwyneb, rhaid cymryd ei bod wedi ei chyflawni neu wedi ei llofnodi felly.