Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- 16 Pŵer Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddyd
- (1) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i'r Comisiynydd.
- (2) Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r Comisiynydd mewn perthynas â'r
- materion canlynol—
- (a) rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson o dan Bennod 6 o Ran 4 (gan gynnwys
- cynnwys hysbysiad cydymffurfio sydd i'w roi i berson);
- (b) Rhan 5 (gorfodi safonau);
- (c) Rhan 6 (rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg).
- (3) Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion
- Cymru.
- 17
- Ymgynghori
- Os bydd y Comisiynydd, mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth, yn ymgynghori —
- (a) â'r Panel Cynghori, neu
- (b) ag unrhyw berson arall yn unol â'r Mesur hwn,
- rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i'r ymgynghoriad wrth arfer y swyddogaeth.
- Adroddiadau blynyddol
- 18
- Adroddiadau blynyddol
- (1) Rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad mewn perthynas â phob un o flynyddoedd
- ariannol y Comisiynydd (“adroddiad blynyddol”).
- (2) Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys y materion a ganlyn—
- (a) crynodeb o'r camau a gymerwyd wrth arfer swyddogaethau'r Comisiynydd;
- (b) adolygiad o faterion sy'n berthnasol i'r Gymraeg;
- (c) crynodeb o raglen waith y Comisiynydd;
- (d) cynigion y Comisiynydd ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol
- ddilynol;
- (e) crynodeb o'r cwynion a wnaed yn unol â'r weithdrefn a sefydlwyd o dan adran
- 14.
- (3) Caiff adroddiad blynyddol hefyd gynnwys unrhyw faterion eraill y mae'n briodol eu
- cynnwys yn yr adroddiad yn nhyb y Comisiynydd.
- (4) Am ddarpariaeth ynghylch blwyddyn ariannol y Comisiynydd, gweler paragraff 15 o
- Atodlen 1.
- 19
- Adroddiadau blynyddol: atodol
- (1) Wrth baratoi pob adroddiad blynyddol, caiff y Comisiynydd ymgynghori—
- (a) â'r Panel Cynghori, a
- (b) ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb y
- Comisiynydd.