Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- (2) Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad blynyddol yn Gymraeg ac yn
- Saesneg.
- (3) Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 31
- Awst yn y flwyddyn ariannol sy'n dilyn y flwyddyn ariannol y mae'r adroddiad yn
- ymwneud â hi.
- (4) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi pob adroddiad blynyddol,
- rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru.
- (5) Rhaid i Weinidogion Cymru—
- (a) archwilio pob adroddiad blynyddol a gyflwynir iddynt, a
- (b) gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
- Gweithio gydag ombwdsmyn eraill, comisiynwyr eraill etc
- 20
- Gweithio ar y cyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw'n ymddangos i'r Comisiynydd y gallai pwnc
- ymchwiliad penodol i orfodi safonau (“ymchwiliad y Comisiynydd”) hefyd fod yn
- destun ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
- (2) Os yw'r Comisiynydd o'r farn fod hynny'n briodol, rhaid iddo—
- (a) hysbysu'r Ombwdsmon ynglŷn ag ymchwiliad y Comisiynydd (gan gynnwys
- cynigion y Comisiynydd ar gyfer ymgymryd â'r ymchwiliad), a
- (b) ymgynghori â'r
- Comisiynydd.
- Ombwdsmon
- mewn
- perthynas
- ag
- ymchwiliad
- y
- (3) Os yw'r Comisiynydd yn ymgynghori â'r Ombwdsmon mewn perthynas ag
- ymchwiliad y Comisiynydd, caiff y Comisiynydd a'r Ombwdsmon wneud unrhyw un
- neu ragor neu'r oll o'r canlynol—
- (a) cydweithredu â'i gilydd mewn perthynas â'r ymchwiliad;
- (b) cynnal ymchwiliad ar y cyd;
- (c) paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â'r ymchwiliad.
- (4) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn—
- (a) darparu i'r adran hon fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson arall
- fel y mae'n gymwys mewn perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau
- Cyhoeddus Cymru, a
- (b) gwneud darpariaeth arall sy'n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru mewn
- cysylltiad â, at ddibenion, neu o ganlyniad i ddarpariaeth a wneir o dan
- baragraff (a).
- (5) Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (4) yn cynnwys y canlynol,
- ond nid yw wedi ei chyfyngu i hynny—
- (a) darpariaeth yn galluogi'r person arall i weithio, neu'n ei gwneud yn ofynnol i'r
- person arall weithio, ar y cyd â'r Comisiynydd; a
- (b) diwygiadau i unrhyw ddeddfiad.
- (6) Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori
- â'r Comisiynydd ac ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn
- nhyb Gweinidogion Cymru.