Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- (7) Yn yr adran hon-
- mae "ymchwiliad" ("investigation"), mewn perthynas ag Ombwdsmon
- Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn cynnwys archwiliad ac ymholiad, ac
- mae ymadroddion cytras i'w dehongli'n unol â hynny;
- ystyr "ymchwiliad i orfodi safonau" ("standards enforcement investigation") yw
- ymchwiliad y mae gan y Comisiynydd yr hawl i ymgymryd ag ef, neu
- ymchwiliad y mae'n ymgymryd ag ef, o dan adran 71.
- 21 Gweithio'n gyfochrog ag ombwdsmyn, comisiynwyr etc
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw'n ymddangos i'r Comisiynydd fod pwnc
- ymchwiliad i orfodi safonau ("ymchwiliad y Comisiynydd") yn bwnc sy'n ymwneud
- â mater a allai fod yn destun ymchwiliad gan ombwdsmon penodol, neu sy'n codi
- mater felly ("y mater cysylltiedig").
- (2) Os yw'r Comisiynydd o'r farn bod hynny'n briodol, rhaid iddo hysbysu'r
- ombwdsmon ynglŷn â'r mater cysylltiedig.
- (3) Os yw'r Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad y Comisiynydd, rhaid i'r
- Comisiynydd, os yw o'r farn bod hynny'n briodol-
- (a) hysbysu'r ombwdsmon ynglŷn â'r ymchwiliad (gan gynnwys ynglŷn â
- chynigion y Comisiynydd ar gyfer ymgymryd â'r ymchwiliad), a
- (b) ymgynghori a'r ombwdsmon mewn perthynas â'r ymchwiliad.
- (4) Os yw'r Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad y Comisiynydd, a'r ombwdsmon
- yn ymchwilio i'r mater cysylltiedig, cânt wneud unrhyw un neu ragor o'r canlynol-
- (a) cydweithredu â'i gilydd mewn perthynas â'u gwahanol ymchwiliadau;
- (b) cynnal ymchwiliad ar y cyd;
- (c) paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â'u gwahanol
- ymchwiliadau neu â'u hymchwiliad ar y cyd.
- (5) Os na fydd y Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad y Comisiynydd, rhaid i'r
- Comisiynydd, os yw o'r farn bod hynny'n briodol-
- (a) rhoi i'r person sydd am ddwyn yr achos wybodaeth ynglŷn â sut i gyfeirio'r
- mater cysylltiedig at yr ombwdsmon, a
- (b) rhoi'r wybodaeth honno i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr achos.
- (6) Yn yr adran hon-
- ystyr "ombwdsmon" ("ombudsman") yw -
- (a) Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
- (b) Comisiynydd Plant Cymru,
- (c) Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a
- (d) y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol;
- mae "ymchwiliad" ("investigation"), mewn perthynas ag ombwdsmon, yn
- cynnwys archwiliad ac ymholiad, ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli'n
- unol â hynny;