Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
  • (h) os cafwyd yr wybodaeth gan y Comisiynydd dros 70 o flynyddoedd cyn
  • dyddiad y datgelu, ac os datgeliad ydyw i berson sydd ym marn y
  • Comisiynydd yn berson y dylid datgelu'r wybodaeth iddo er budd y cyhoedd.
  • (3) Gwybodaeth yw'r wybodaeth y cyfeirir ati yn is-adran (2)(f) yr ymddengys i'r
  • Comisiynydd ei bod yn ymwneud—
  • (a) â mater y gallai'r Comisiynydd Gwybodaeth arfer pŵer mewn perthynas ag ef
  • ac a roddir mewn deddfiad a grybwyllir yn is-adran (4); neu
  • (b) â chyflawni tramgwydd a grybwyllir yn is-adran (5).
  • (4) Y deddfiadau y cyfeirir atynt yn is-adran (3)(a) yw—
  • (a) Rhan 5 o Ddeddf Diogelu Data 1998 (gorfodi);
  • (b) adran 48 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (argymhellion arfer); ac
  • (c) Rhan 4 o'r Ddeddf honno (gorfodi).
  • (5) Y tramgwyddau y cyfeirir atynt yn is-adran (3)(b) yw'r rhai—
  • (a) o dan unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Diogelu Data 1998 ac eithrio paragraff
  • 12 o Atodlen 9 i'r Ddeddf honno (rhwystro gweithredu gwarant); neu
  • (b) o dan adran 77 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y tramgwydd o altro etc
  • cofnodion gyda'r bwriad o atal datgelu).
  • (6) At ddibenion is-adran (2)(g), mae amod budd y cyhoedd wedi ei fodloni os yw'r
  • datgeliad—
  • (a) yn briodol at ddiben arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r person a
  • ganiatawyd gan y person hwnnw, a
  • (b) er budd y cyhoedd.
  • (7) Wrth ddyfarnu at ddibenion yr adran hon a yw datgelu gwybodaeth er budd y
  • cyhoedd, rhaid i'r Comisiynydd ystyried buddiannau—
  • (a) unrhyw berson y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef; a
  • (b) unrhyw bersonau eraill sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.
  • (8) Nid yw'r adran hon yn effeithio ar gymhwyso Deddf Diogelu Data 1998 i'r
  • Comisiynydd.
  • (9) Yn yr adran hon—
  • ystyr “person a ganiatawyd” (“permitted person”) yw—
  • (a) Gweinidogion Cymru;
  • (b) Prif Weinidog Cymru;
  • (c) Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru;
  • (d) Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
  • (e) Comisiynydd Plant Cymru;
  • (f)
  • y Comisiynydd Plant;
  • (g) y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol;
  • (h) Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc Gogledd Iwerddon;