Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
  • RHAN 4
  • SAFONAU
  • PENNOD 1
  • DYLETSWYDD I GYDYMFFURFIO Â SAFONAU
  • 25
  • Dyletswydd i gydymffurfio â safon
  • (1) Rhaid i berson (P) gydymffurfio â safon ymddygiad a bennir gan Weinidogion Cymru
  • yn unol â Phennod 2 os bodlonir, a thra bodlonir, yr amodau canlynol.
  • (2) Amod 1 yw bod P yn agored i orfod cydymffurfio â safonau (gweler Pennod 3).
  • (3) Amod 2 yw bod y safon yn gymwysadwy i P (gweler Pennod 4).
  • (4) Amod 3 yw bod y safon yn benodol gymwys i P (gweler Pennod 5).
  • (5) Amod 4 yw bod y Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i P (gweler Pennod
  • 6).
  • (6) Amod 5 yw bod yr hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio
  • â'r safon (gweler Pennod 6).
  • (7) Amod 6 yw bod yr hysbysiad cydymffurfio mewn grym (gweler Pennod 6).
  • (8) Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r hysbysiad cydymffurfio a
  • roddir i P.
  • (9) Am ddarpariaeth—
  • (a) ynglŷn â'r hawl i herio mewn cysylltiad â'r ddyletswydd i gydymffurfio â
  • safonau, gweler Pennod 7;
  • (b) ynglŷn ag ymchwiliadau ac adroddiadau safonau, gweler Pennod 8;
  • (c) ynglŷn â materion cyffredinol, gweler Pennod 9.
  • PENNOD 2
  • SAFONAU A PHENNU SAFONAU
  • Pennu safonau
  • 26
  • Gweinidogion Cymru i bennu safonau
  • (1) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—
  • (a) pennu un neu ragor o safonau cyflenwi gwasanaethau,
  • (b) pennu un neu ragor o safonau llunio polisi,
  • (c) pennu un neu ragor o safonau gweithredu,
  • (d) pennu un neu ragor o safonau hybu, ac