Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- (e) pennu un neu ragor o safonau cadw cofnodion.
- (2) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth arall ynghylch y
- safonau hynny.
- 27
- Pennu safonau: darpariaeth atodol
- (1) Dim ond os ymddengys i Weinidogion Cymru y byddai'r safon yn gwneud y canlynol
- y caiff Gweinidogion Cymru bennu safon cadw cofnodion sy'n ymwneud â chadw
- cofnodion sy'n dod o fewn adran 32(1)(b)(ii) (cwynion yn ymwneud â'r Gymraeg, ac
- eithrio cwynion yn ymwneud â chydymffurfedd person â safonau eraill)—
- (a) cynorthwyo Gweinidogion Cymru i arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Mesur
- hwn, neu
- (b) cynorthwyo'r Comisiynydd i arfer unrhyw swyddogaeth.
- (2) Caiff rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) bennu
- gwahanol safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw mewn perthynas ag
- ymddygiad gwahanol.
- (3) Caiff rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1)
- bennu, mewn perthynas ag ymddygiad penodol—
- (a) un safon o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, neu
- (b) nifer o safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw.
- (4) Caiff safonau a bennir o dan adran 26(1), neu reoliadau o dan adran 26(2), ymdrin,
- ymhlith pethau eraill, ag unrhyw un neu ragor o'r canlynol—
- (a) llunio gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â
- safonau, strategaethau neu gynlluniau'n nodi sut y maent yn bwriadu
- cydymffurfio â'r safonau;
- (b) gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn
- adran 25 i gydymffurfio â safonau;
- (c) casglu gwybodaeth gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i
- gydymffurfio â safonau, gan gynnwys gwybodaeth am ddefnyddio'r Gymraeg
- a'r Saesneg mewn perthynas ag ymddygiad penodol;
- (d) gwybodaeth y mae'n rhaid trefnu iddi fod ar gael i'r Comisiynydd;
- (e) trefniadau monitro a gofynion cyhoeddusrwydd;
- (f)
- gofynion adrodd.
- Safonau cyflenwi gwasanaethau
- 28
- Safonau cyflenwi gwasanaethau
- (1) Yn y Mesur hwn ystyr “safon cyflenwi gwasanaethau” yw safon—
- (a) sy'n ymwneud â gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau, a
- (b) y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg, neu weithio tuag at
- sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg, pan
- gyflawnir y gweithgaredd hwnnw.
- (2) Yn yr adran hon ystyr “gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau” yw—