Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- (i)
- gan A wrth i A wneud ei weithgareddau perthnasol,
- (ii) gan A a pherson arall wrth iddynt ddelio â'i gilydd mewn cysylltiad â
- gweithgareddau perthnasol A, neu
- (iii) gan berson heblaw A wrth iddo wneud gweithgareddau at ddibenion
- gweithgareddau perthnasol A, neu mewn cysylltiad â hwy.
- (2) Yn yr adran hon—
- (a) ystyr “gweithgareddau perthnasol” yw—
- (i)
- swyddogaethau, neu
- (ii) busnes neu ymgymeriad arall;
- (b) mae cyfeiriad at gyflawni gweithgareddau perthnasol yn gyfeiriad at—
- (i)
- arfer swyddogaethau, neu
- (ii) cynnal busnes neu ymgymeriad arall.
- Safonau hybu
- 31
- Safonau hybu
- Yn y Mesur hwn ystyr “safon hybu” yw safon (yn ymwneud ag unrhyw weithgaredd)
- y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg yn ehangach.
- Safonau cadw cofnodion
- 32
- Safonau cadw cofnodion
- (1) Yn y Mesur hwn ystyr “safon cadw cofnodion” yw safon sy'n ymwneud â chadw—
- (a) cofnodion sy'n ymwneud â safonau penodedig eraill, a
- (b) cofnodion sy'n ymwneud—
- (i)
- â chwynion am gydymffurfedd person â safonau penodedig eraill, neu
- (ii) â chwynion eraill sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
- (2) Yn yr adran hon ystyr “safon benodedig” yw safon a bennir gan Weinidogion Cymru
- o dan adran 26(1).
- PENNOD 3
- PERSONAU SY'N AGORED I ORFOD CYDYMFFURFIO Â SAFONAU
- 33
- Personau sy'n agored i orfod cydymffurfio â safonau
- (1) Mae person (P) yn agored i orfod cydymffurfio â safonau os yw P—
- (a) yn dod o fewn Atodlen 5 a hefyd o fewn Atodlen 6, neu
- (b) yn dod o fewn Atodlen 7 a hefyd o fewn Atodlen 8.
- (2) Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.