Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- (7) Yn yr adran hon—
- ystyr “categori yn Atodlen 5” (“Schedule 5 category”) yw categori o bersonau a
- bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 5;
- ystyr “categori yn Atodlen 7” (“Schedule 7 category”) yw categori o bersonau a
- bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 7.
- PENNOD 4
- SAFONAU CYMWYSADWY
- 36 Personau sy'n dod o fewn Atodlen 6
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys i berson (P) sy'n dod o fewn Atodlen 6.
- (2) Mae safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) yn gymwysadwy i P
- os yw'n perthyn i ddosbarth o safonau a bennir yng ngholofn (2) o gofnod P yn y tabl
- yn Atodlen 6.
- (3) At y diben hwnnw, mae pob un o'r canlynol yn ddosbarth o safonau—
- (a) safonau cyflenwi gwasanaethau;
- (b) safonau llunio polisi;
- (c) safonau gweithredu;
- (d) safonau hybu;
- (e) safonau cadw cofnodion.
- (4) Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.
- 37 Personau sy'n dod o fewn Atodlen 8
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys i berson (P) sy'n dod o fewn Atodlen 8.
- (2) Mae safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) yn gymwysadwy i P
- os yw'r safon honno, ac i'r graddau y mae'r safon honno—
- (a) yn safon cyflenwi gwasanaethau sy'n ymwneud â darparu gan P wasanaeth a
- bennir (“safon neilltuedig cyflenwi gwasanaethau”), neu
- (b) yn safon cadw cofnodion sy'n ymwneud â chadw cofnodion—
- (i) am safonau neilltuedig cyflenwi gwasanaethau,
- (ii) am gwynion yn ymwneud â chydymffurfedd P â safonau neilltuedig
- cyflenwi gwasanaethau, neu
- (iii) am gwynion mewn perthynas â'r Gymraeg sy'n ymwneud â darparu
- gan P wasanaeth a bennir.
- (3) Yn yr adran hon, ystyr “gwasanaeth a bennir” yw gwasanaeth a bennir yng ngholofn
- (2) o gofnod P yn y tabl yn Atodlen 8.
- (4) Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.
- 38
- Diwygio safonau cymwysadwy
- (1) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 a'r tabl yn
- Atodlen 8 yn unol â'r adran hon.