Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
  • (2) Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn (2) o gofnod
  • yn cynnwys cyfeiriad at un neu ragor o'r canlynol—
  • (a) safonau cyflenwi gwasanaethau;
  • (b) safonau llunio polisi;
  • (c) safonau gweithredu;
  • (d) safonau cadw cofnodion.
  • (3) Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn (2) o unrhyw
  • un neu ragor o'r cofnodion canlynol yn y tabl yn cynnwys cyfeiriad at safonau hybu—
  • (a) cofnod Gweinidogion Cymru;
  • (b) cofnod cyngor bwrdeistref sirol;
  • (c) cofnod cyngor sir;
  • (d) cofnod awdurdod Parc Cenedlaethol;
  • (e) cofnod unrhyw berson arall, ond dim ond os yw'r person wedi cydsynio y
  • dylai safonau hybu fod yn gymwysadwy iddo.
  • (4) At ddibenion is-adran (3)—
  • (a) ystyr “cydsyniad” yw cydsyniad ysgrifenedig a roddir i Weinidogion Cymru;
  • (b) caniateir i berson dynnu cydsyniad yn ôl, ond dim ond os yw Gweinidogion
  • Cymru yn cytuno i hynny;
  • (c) os yw person yn tynnu cydsyniad yn ôl ar ôl i gofnod y person hwnnw gael ei
  • ddiwygio i gynnwys cyfeiriad at safonau hybu, rhaid i Weinidogion Cymru
  • ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 drwy ddileu'r cyfeiriad at safonau hybu yng
  • nghofnod y person hwnnw.
  • (5) Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 drwy ddileu unrhyw
  • gyfeiriad yng ngholofn (2).
  • (6) Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 fel bod colofn (2) o gofnod
  • sy'n ymwneud â pherson neu gategori o berson yn cynnwys cyfeiriad at ddarparu
  • gwasanaeth (y “gwasanaeth a bennir”), ond dim ond—
  • (a) os yw'r amod yn is-adran (7) wedi ei fodloni, a
  • (b) os yw'r amod yn is-adran (8) neu (9) wedi ei fodloni.
  • (7) Rhaid i'r gwasanaeth a bennir ddod o fewn categori o wasanaeth a bennir yng
  • ngholofn (3) o'r tabl yn Atodlen 7 (“gwasanaeth sydd ar gael”)
  • (8) Os yw'r gwasanaeth a bennir i ymwneud â pherson yn Atodlen 8, rhaid i'r person
  • hwnnw ddod o fewn y categori o bersonau yng ngholofn (2) yn y tabl yn Atodlen 7 y
  • mae'r gwasanaeth sydd ar gael yn perthyn iddo.
  • (9) Os yw'r gwasanaeth a bennir i ymwneud â chategori o bersonau yn Atodlen 8, rhaid
  • i'r holl bersonau o fewn y categori hwnnw ddod o fewn y categori o bersonau yng
  • ngholofn (2) yn y tabl yn Atodlen 7 y mae'r gwasanaeth sydd ar gael yn perthyn iddo.
  • (10) Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 drwy ddileu unrhyw
  • gyfeiriad yng ngholofn (2).