Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
  • (11) Caiff Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau eraill i'r tabl yn Atodlen 6 neu i'r tabl
  • yn Atodlen 8, neu i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Mesur hwn, sy'n briodol yn eu tyb
  • hwy mewn cysylltiad â phwerau o dan unrhyw un neu ragor o is-adrannau (2) i (10),
  • at ddibenion y pwerau hynny, neu o ganlyniad iddynt.
  • PENNOD 5
  • SAFONAU SY' N BENODOL GYMWYS
  • 39
  • Safonau sy'n benodol gymwys
  • (1) Mae safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) yn benodol gymwys i
  • berson (P) os yw Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, yn awdurdodi'r
  • Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i P sy'n ei gwneud yn ofynnol i P
  • gydymffurfio â'r safon.
  • (2) Caiff y rheoliadau ddarparu i safon fod yn benodol gymwys i P drwy wneud
  • darpariaeth sy'n cyfeirio—
  • (a) at P yn benodol, neu
  • (b) at grŵp o bersonau y mae P yn dod oddi mewn iddo.
  • (3) Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.
  • 40
  • Dyletswydd i wneud safonau'n benodol gymwys
  • (1) Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phob safon a bennir gan Weinidogion
  • Cymru o dan adran 26(1).
  • (2) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod rheoliadau o dan adran 39 yn gwneud
  • darpariaeth i'r safon fod yn benodol gymwys i un person neu ragor.
  • 41
  • Safonau gwahanol yn ymwneud ag ymddygiad penodol
  • (1) Mae'r adran hon yn gymwys os bydd rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o
  • baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) yn pennu nifer o safonau o'r math y cyfeirir ato yn
  • y paragraff hwnnw mewn perthynas ag ymddygiad penodol.
  • (2) Caiff rheoliadau o dan adran 39 ddarparu ar gyfer un neu ragor o'r canlynol—
  • (a) i un safon fod yn benodol gymwys i un person, i ddau berson neu i ragor, neu
  • i grŵp o bersonau;
  • (b) i ddwy safon neu ragor fod yn benodol gymwys i un person, i ddau berson neu
  • i ragor, neu i grŵp o bersonau;
  • (c) i safonau gwahanol fod yn benodol gymwys i bersonau gwahanol.
  • 42
  • Dyletswydd i wneud rhai safonau cyflenwi gwasanaethau'n benodol gymwys
  • (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw rheoliadau o dan adran 39 yn darparu bod
  • unrhyw safon cyflenwi gwasanaethau'n benodol gymwys i berson (P).
  • (2) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod rheoliadau o dan adran 39 yn darparu bod
  • safonau cyflenwi gwasanaethau sy'n ymwneud â phob un o'r gweithgareddau a
  • bennir yn Atodlen 9 (i'r graddau y mae safonau o'r fath wedi eu pennu gan
  • Weinidogion Cymru o dan adran 26(1)) yn benodol gymwys i P os yw P, ac i'r
  • graddau y mae P, yn gwneud y gweithgareddau hynny.