Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
  • (3) Ond nid oes rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod rheoliadau yn darparu i safon
  • cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â gweithgaredd
  • a bennir yn Atodlen 9 os yw, neu i'r graddau y mae—
  • (a) adroddiad safonau o dan adran 64 yn nodi y byddai'n afresymol neu'n
  • anghymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P
  • mewn perthynas â'r gweithgaredd hwnnw, neu
  • (b) Gweinidogion Cymru o'r farn y byddai'n afresymol neu'n anghymesur i
  • safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas
  • â'r gweithgaredd hwnnw.
  • (4) Nid yw'r adran hon yn atal rheoliadau o dan adran 39 rhag darparu bod safonau
  • cyflenwi gwasanaethau eraill yn benodol gymwys i P.
  • (5) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio Atodlen 9 drwy ychwanegu,
  • hepgor neu ddiwygio cyfeiriad at weithgaredd.
  • 43
  • Cyfyngiad ar y pŵer i wneud safonau'n benodol gymwys
  • (1) Ni chaiff rheoliadau o dan adran 39 ddarparu bod safon—
  • (a) yn benodol gymwys i berson, oni bai bod y safon yn gymwysadwy i'r person
  • hwnnw, neu
  • (b) yn benodol gymwys i grŵp o bersonau oni bai bod y safon yn gymwysadwy i
  • bob person yn y grŵp hwnnw.
  • (2) Ni chaiff rheoliadau o dan adran 39 ddarparu i safon fod yn benodol gymwys i
  • unrhyw un o Weinidogion y Goron oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio
  • i'r ddarpariaeth honno.
  • (3) Mewn achos—
  • (a) pan fo safon yn benodol gymwys i unrhyw un o Weinidogion y Goron, a
  • (b) pan fo'r safon yn cael ei haddasu gan ddarpariaeth mewn rheoliadau o dan
  • adran 26,
  • nid yw'r safon fel y mae wedi ei haddasu yn benodol gymwys i Weinidogion y Goron
  • oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i'r ddarpariaeth honno yn y
  • rheoliadau hynny.
  • (4) Yn yr adran hon, mae i'r ymadrodd “Gweinidogion y Goron” yr un ystyr ag sydd iddo
  • yn Atodlen 6.
  • PENNOD 6
  • HYSBYSIADAU CYDYMFFURFIO
  • Hysbysiadau cydymffurfio
  • 44
  • Hysbysiadau cydymffurfio
  • (1) Yn y Mesur hwn ystyr “hysbysiad cydymffurfio” yw hysbysiad a roddir i berson (P)
  • gan y Comisiynydd—