Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- (a) sy'n nodi, neu'n cyfeirio at, un neu ragor o safonau a bennir gan Weinidogion
- Cymru o dan adran 26(1), a
- (b) sy'n ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â'r safon neu â'r safonau a nodir
- neu y cyfeirir ati neu atynt.
- (2) Caiff hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio â safon
- benodol—
- (a) mewn rhai amgylchiadau, ond nid mewn amgylchiadau eraill;
- (b) mewn rhyw ardal neu rai ardaloedd, ond nid mewn ardaloedd eraill.
- (3) Os yw rheoliadau o dan adran 39 yn darparu bod dwy neu ragor o safonau a bennir
- mewn perthynas ag ymddygiad penodol yn benodol gymwys i berson penodol, caiff
- hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio—
- (a) ag un o'r safonau'n unig, neu
- (b) â gwahanol safonau—
- (i)
- ar adegau gwahanol;
- (ii) mewn amgylchiadau gwahanol (boed ar yr un adeg neu ar adegau
- gwahanol);
- (iii) mewn ardaloedd gwahanol (boed ar yr un adeg neu ar adegau
- gwahanol).
- Rhoi hysbysiadau cydymffurfio
- 45
- Rhoi hysbysiadau cydymffurfio i unrhyw berson
- (1) Dim ond os yw person (P) yn agored i orfod cydymffurfio â safonau (gweler Pennod
- 3) y caiff y Comisiynydd roi hysbysiad cydymffurfio i P.
- (2) Dim ond os yw safon benodol a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1)—
- (a) yn gymwysadwy i P (gweler Pennod 4), a
- (b) yn benodol gymwys i P (gweler Pennod 5),
- y caiff hysbysiad cydymffurfio a roddir i P nodi, neu gyfeirio at, safon benodol.
- (3) Os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad cydymffurfio i P, rhaid i'r Comisiynydd
- hefyd—
- (a) rhoi copi o unrhyw god ymarfer perthnasol a ddyroddir o dan adran 68 i P, a
- (b) rhoi gwybod i P am yr hawl i herio o dan Bennod 7.
- (4) Am ddarpariaeth ynglŷn â rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr, gweler
- adran 48.
- 46
- Diwrnodau gosod
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys o ran pob safon a bennir mewn hysbysiad cydymffurfio
- a roddir i berson.
- (2) Rhaid i'r hysbysiad ddatgan y diwrnod gosod neu'r diwrnodau gosod.