Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
  • (3) Rhaid i'r diwrnod gosod, neu'r cynharaf o'r diwrnodau gosod, ddod ar ôl diwedd y
  • cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.
  • (4) Yn yr adran hon ystyr “diwrnod gosod” o ran safon yw—
  • (a) y diwrnod oddi ar bryd y mae'n ofynnol i berson gydymffurfio â'r safon, neu,
  • (b) y diwrnod oddi ar bryd y mae'n ofynnol i berson gydymffurfio â'r safon mewn
  • modd penodol.
  • (5) Am ddarpariaeth ynglŷn â rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr, gweler
  • adran 48.
  • 47
  • Ymgynghori
  • (1) Cyn rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r
  • person.
  • (2) Ond nid yw is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ymgynghori â
  • pherson ar unrhyw fater os yw'r Comisiynydd wedi ei fodloni bod y person hwnnw
  • eisoes wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y mater hwnnw, neu wedi cael
  • cyfle i wneud hynny, mewn cysylltiad ag ymchwiliad safonau (gweler Pennod 8).
  • (3) Nid yw methiant y person i gymryd rhan mewn ymgynghoriad yn atal y
  • Comisiynydd rhag rhoi hysbysiad cydymffurfio i'r person hwnnw.
  • 48
  • Rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr
  • (1) Mae'r adran hon yn gymwys (ynghyd ag adrannau 45 a 46) mewn perthynas â
  • pherson neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd (y “gwasanaethau
  • perthnasol”) o dan gytundeb, neu'n unol â threfniadau, a wneir gydag awdurdod
  • cyhoeddus (y “contract perthnasol”).
  • (2) Dim ond—
  • (a) os yw'n ofynnol i'r awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon berthnasol
  • wrth ddarparu'r gwasanaethau perthnasol i'r cyhoedd (neu y byddai wedi bod
  • yn ofynnol i'r awdurdod cyhoeddus wneud hynny pe bai'n darparu'r
  • gwasanaethau hynny i'r cyhoedd),
  • (b) os gwnaed y contract perthnasol ar neu ar ôl diwrnod gosod yr awdurdod
  • cyhoeddus, ac
  • (c) os yw diwrnod gosod y person neilltuedig yn dod ar neu ar ôl diwrnod gosod
  • yr awdurdod cyhoeddus,
  • y caiff hysbysiad cydymffurfio a roddir i'r person neilltuedig nodi, neu gyfeirio at,
  • safon benodol (y “safon berthnasol”) mewn perthynas â darparu'r gwasanaethau
  • perthnasol o dan y contract perthnasol.
  • (3) Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y gofyniad am i'r person neilltuedig gydymffurfio
  • â'r safon berthnasol (sy'n codi yn rhinwedd bod hysbysiad cydymffurfio yn cael ei roi
  • yn unol ag is-adran (2)) yr un fath â'r gofyniad, neu heb fod yn fwy na'r gofyniad, am
  • i'r awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon.
  • (4) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn yr adran hon ac yn Atodlen 8 yr un ystyr yn yr
  • adran hon ag yn Atodlen 8.