Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
  • (5) Yn yr adran hon—
  • ystyr “diwrnod gosod yr awdurdod cyhoeddus” (“public authority's imposition
  • day”) yw'r diwrnod, neu'r cynharaf o'r diwrnodau, y mae'n ofynnol i
  • awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon berthnasol;
  • ystyr “diwrnod gosod y person neilltuedig” (“qualifying person's imposition
  • day”) yw'r diwrnod, neu'r cynharaf o'r diwrnodau, a nodir yn yr hysbysiad
  • cydymffurfio a roddir i'r person neilltuedig yn ddiwrnod y mae i fod yn
  • ofynnol i'r person neilltuedig gydymffurfio â'r safon berthnasol mewn
  • perthynas â darparu'r gwasanaethau perthnasol o dan y contract perthnasol.
  • Amrywio hysbysiadau cydymffurfio
  • 49
  • Amrywio hysbysiadau cydymffurfio
  • (1) Caiff y Comisiynydd amrywio unrhyw hysbysiad cydymffurfio.
  • (2) Mae adrannau 45 i 47 yn gymwys o ran amrywio hysbysiad cydymffurfio yn yr un
  • modd ag y maent yn gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio, ond dim ond i'r
  • graddau y mae'r hysbysiad wedi ei amrywio.
  • (3) Mae adran 48 yn gymwys o ran amrywio hysbysiad cydymffurfio yn yr un modd ag
  • y mae'n gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio.
  • Dirymu hysbysiadau cydymffurfio
  • 50
  • Dirymu hysbysiadau cydymffurfio
  • (1) Caiff y Comisiynydd ddirymu unrhyw hysbysiad cydymffurfio.
  • (2) Mae is-adrannau (3) a (4) yn gymwys mewn achos pan fo'r Comisiynydd—
  • (a) yn dirymu hysbysiad cydymffurfio a roddwyd i berson (yr “hen hysbysiad”),
  • a
  • (b) ar yr un pryd yn rhoi i'r person hwnnw hysbysiad cydymffurfio (yr “hysbysiad
  • newydd”).
  • (3) Dim ond i'r graddau y mae'r hysbysiad newydd yn wahanol i'r hen hysbysiad y mae
  • adrannau 45 i 47 yn gymwys o ran rhoi'r hysbysiad newydd.
  • (4) Mae adran 48 yn gymwys o ran rhoi hysbysiad newydd yn yr un modd ag y mae'n
  • gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio.
  • Pan fydd hysbysiad cydymffurfio mewn grym
  • 51
  • Pan fydd hysbysiad cydymffurfio mewn grym
  • (1) Mae hysbysiad cydymffurfio a roddir i berson (P) mewn grym o'r diwrnod y rhoddir
  • yr hysbysiad i P gan y Comisiynydd.
  • (2) Mae hysbysiad cydymffurfio yn aros mewn grym oni chaiff — a hyd oni chaiff — ei
  • ddirymu.
  • (3) Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.