Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- PENNOD 7
- YR HAWL I HERIO
- 54 Herio dyletswyddau dyfodol
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys—
- (a) os yw'r Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson (P), a
- (b) os yw'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i P—
- (i) cydymffurfio â safon, neu
- (ii) cydymffurfio â safon mewn modd penodol
- oddi ar ddiwrnod gosod yn y dyfodol.
- (2) Caiff P wneud cais i'r Comisiynydd yn gofyn i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw'r
- gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon honno, neu gydymffurfio â'r safon yn y modd
- hwnnw, yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio.
- (3) Os yw'r dyfarniad hwnnw'n cael ei wneud cyn y diwrnod gosod, rhaid i'r
- Comisiynydd wrth wneud y dyfarniad ystyried yr amgylchiadau fel y disgwylir
- iddynt fod ar y diwrnod gosod.
- (4) Rhaid i gais o dan yr adran hon gael ei wneud cyn y diwrnod gosod.
- (5) Yn yr adran hon, mae i'r ymadrodd “diwrnod gosod” yr ystyr sydd iddo yn adran 46.
- 55 Herio dyletswyddau presennol
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys—
- (a) os yw'r Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson (P), a
- (b) os yw'r hysbysiad eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i P—
- (i) cydymffurfio â safon, neu
- (ii) cydymffurfio â safon mewn modd penodol.
- (2) Caiff P wneud cais i'r Comisiynydd yn gofyn i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw'r
- gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon honno, neu gydymffurfio â'r safon yn y modd
- hwnnw, yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio.
- (3) Ond caiff y Comisiynydd wrthod derbyn cais o dan yr adran hon os yw wedi ei
- fodloni nad oes unrhyw newid sylweddol wedi bod yn amgylchiadau P—
- (a) oddi ar y diwrnod y'i gwnaed yn ofynnol am y tro cyntaf i P gydymffurfio â'r
- safon, neu i P gydymffurfio â'r safon yn y modd hwnnw, neu
- (b) os yw'r Comisiynydd wedi dyfarnu'r cwestiwn perthnasol ar gais blaenorol o
- dan yr adran hon, ers i'r Comisiynydd ddyfarnu'r cwestiwn perthnasol ar y
- cais hwnnw.
- (4) Yn yr adran hon, ystyr “cwestiwn perthnasol” yw'r cwestiwn y mae cais o dan yr
- adran hon yn ymwneud ag ef.