Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- (2) Caiff P apelio i'r Tribiwnlys yn gofyn i'r Tribiwnlys ddyfarnu a yw'r gofyniad yn
- afresymol neu'n anghymesur ai peidio.
- (3) Rhaid i apêl o dan yr adran hon gael ei gwneud o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau
- gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbyswyd P gan y Comisiynydd o dan adran 57.
- (4) Ond caiff y Tribiwnlys, ar gais ysgrifenedig gan P, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar
- ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da—
- (a) dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a
- (b) os oedd unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr
- amser priodol, dros yr oedi hwnnw.
- (5) Rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu P a'r Comisiynydd o'i ddyfarniad ar apêl a wneir o dan
- yr adran hon.
- (6) Os yw'r Tribiwnlys yn dyfarnu bod y gofyniad yn afresymol neu'n anghymesur, bydd
- is-adrannau (6) a (7) o adran 57 yn gymwys fel pe bai'r Comisiynydd wedi gwneud y
- dyfarniad hwnnw.
- (7) Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys (sy'n cael gwneud, ymysg
- pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch y modd y ceir dwyn apelau o dan yr adran hon).
- 59 Apelau o'r Tribiwnlys
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Tribiwnlys wedi penderfynu apêl o dan adran
- 58.
- (2) Caiff y Comisiynydd neu P, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, apelio i'r
- Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol sy'n deillio o'r penderfyniad.
- (3) Os yw'r Uchel Lys yn dyfarnu bod y Tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad ar bwynt
- cyfreithiol—
- (a) caiff yr Uchel Lys osod penderfyniad y Tribiwnlys o'r naill du, a
- (b) os bydd yr Uchel Lys yn gosod y penderfyniad o'r naill du, rhaid iddo naill ai—
- (i) anfon yr achos yn ôl i'r Tribiwnlys gyda chyfarwyddyd ar gyfer ei
- ailystyried, neu
- (ii) ail-wneud y penderfyniad.
- (4) Mae'r cyfarwyddiadau y caniateir i'r Uchel Lys eu rhoi o dan is-adran (3)(b)(i) yn
- cynnwys y canlynol, ond heb fod wedi eu cyfyngu iddynt—
- (a) cyfarwyddyd na all y personau sydd i ailystyried yr achos fod yr un rhai â'r
- personau a wnaeth y penderfyniad sydd wedi ei roi o'r naill du;
- (b) cyfarwyddiadau gweithredu mewn cysylltiad ag ailystyried yr achos.
- (5) Wrth ail-wneud y penderfyniad yn unol ag is-adran (3)(b)(ii), caniateir i'r Uchel Lys—
- (a) gwneud unrhyw benderfyniad y gallai'r Tribiwnlys ei wneud pe bai'r
- Tribiwnlys yn gwneud y penderfyniad, a
- (b) gwneud y canfyddiadau ffeithiol sy'n briodol yn nhyb yr Uchel Lys.
- (6) Rhaid i gais am ganiatâd i apelio gael ei wneud i'r Tribiwnlys neu'r Uchel Lys o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysodd y Tribiwnlys y person sy'n gwneud y cais o'i ddyfarniad ar yr apêl o dan adran 58.