Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
  • (7) Ond caiff y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, ar gais ysgrifenedig gan y Comisiynydd neu
  • P, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys
  • neu'r Uchel Lys wedi ei fodloni bod rheswm da—
  • (a) dros y methiant i wneud cais am ganiatâd i apelio cyn diwedd y cyfnod
  • hwnnw, a
  • (b) os oedd unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud y cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr
  • amser priodol, dros yr oedi hwnnw.
  • (8) Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.
  • 60 Gohirio gosod dyletswydd
  • (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw P yn gwneud cais o dan adran 54 am i'r
  • Comisiynydd ddyfarnu a yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â safon, neu
  • gydymffurfio â hi mewn modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio.
  • (2) Ni fydd y gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon honno, neu am i P gydymffurfio â'r
  • safon yn y modd hwnnw'n gymwys oni fydd neu hyd oni fydd—
  • (a) y Comisiynydd wedi dyfarnu a yw'r gofyniad yn afresymol neu'n anghymesur
  • ai peidio, a
  • (b) hawliau P i apelio wedi eu disbyddu.
  • (3) At y diben hwnnw, bydd hawliau P wedi eu disbyddu—
  • (a) os bydd y cyfnod a grybwyllir yn adran 58(3) ar gyfer gwneud apêl i'r
  • Tribiwnlys wedi dod i ben heb fod apêl wedi ei gwneud, neu
  • (b) os bydd apêl o dan adran 58 wedi ei gwneud a'i dyfarnu ac, o ran apêl
  • bellach—
  • (i) na ellir gwneud un, neu
  • (ii) na ellir gwneud un heb ganiatâd y Tribiwnlys neu ganiatâd llys.
  • PENNOD 8
  • YMCHWILIADAU AC ADRODDIADAU SAFONAU
  • Ymchwiliadau safonau
  • 61 Ymchwiliadau safonau
  • (1) Yn y Mesur hwn ystyr “ymchwiliad safonau” yw ymchwiliad a gynhelir mewn
  • perthynas â pherson (P) er mwyn dyfarnu ar un neu ragor o'r cwestiynau canlynol—
  • (a) a ddylai P fod yn agored — neu a ddylai P barhau i fod yn agored — i orfod
  • cydymffurfio â safonau;
  • (b) os yw P yn dod o fewn Atodlen 6, pa safonau (os o gwbl) a ddylai fod — neu
  • a ddylai barhau i fod — yn gymwysadwy i P;
  • (c) os yw P yn dod o fewn Atodlen 8, pa wasanaethau (os o gwbl) a ddylai gael —
  • neu a ddylai barhau i gael — eu pennu yng ngholofn (2) o gofnod P yn y tabl
  • yn Atodlen 8;