Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
  • (d) pa safonau (os o gwbl) a ddylai fod — neu a ddylai barhau i fod — yn benodol
  • gymwys i P (p'un a yw'r safonau eisoes wedi eu pennu gan Weinidogion
  • Cymru o dan adran 26(1) ai peidio);
  • (e) unrhyw gwestiwn arall y mae'r Comisiynydd o'r farn ei fod yn berthnasol o ran
  • y graddau y caniateir i P fod yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd yn adran 25(1)
  • i gydymffurfio â safonau.
  • (2) Caniateir cynnal ymchwiliad safonau penodol mewn perthynas—
  • (a) â pherson penodol, neu
  • (b) â grŵp o bersonau.
  • 62
  • Y pŵer i gynnal ymchwiliadau safonau
  • (1) Caiff y Comisiynydd gynnal ymchwiliadau safonau.
  • (2) Ond ni chaiff y Comisiynydd gynnal ymchwiliad safonau oni bai iddo roi hysbysiad
  • rhagymchwilio i bob person perthnasol o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn dechrau ar yr
  • ymchwiliad.
  • (3) Hysbysiad ysgrifenedig yw hysbysiad rhagymchwilio—
  • (a) sy'n datgan bod y Comisiynydd yn bwriadu cynnal ymchwiliad safonau, a
  • (b) sy'n pennu pwnc yr ymchwiliad safonau.
  • (4) Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol”—
  • (a) yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson penodol, yw'r person
  • hwnnw;
  • (b) yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â grˆwp o bersonau, yw
  • personau—
  • (i)
  • yr ymddengys i'r Comisiynydd eu bod yn aelodau o'r grŵp, a
  • (ii) y mae'n briodol rhoi hysbysiadau rhagymchwilio iddynt yn nhyb y
  • Comisiynydd.
  • 63
  • Y gofynion wrth gynnal ymchwiliadau safonau
  • (1) Wrth gynnal ymchwiliad safonau, rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i'r angen am sicrhau
  • nad yw gofynion am i bersonau gydymffurfio â safonau yn rhinwedd adran 25(1) yn
  • afresymol neu'n anghymesur.
  • (2) Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu, neu'n cael ei gyfarwyddo, bod ymchwiliad
  • safonau i ystyried a ddylai safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i
  • P, rhaid i'r ymchwiliad—
  • (a) ystyried, o ran pob gweithgaredd a bennir yn Atodlen 9 y mae P yn ei wneud,
  • a yw'n rhesymol ac yn gymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn
  • benodol gymwys i P ai peidio, a
  • (b) o ran pob gweithgaredd o'r fath, os yw'n rhesymol ac yn gymesur i safonau
  • cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P, ddod i'r casgliad y dylai
  • safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas
  • â'r gweithgaredd hwnnw.