Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
  • (3) Wrth gynnal ymchwiliad safonau, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori—
  • (a) â phob person perthnasol,
  • (b) â'r Panel Cynghori, ac
  • (c) â'r cyhoedd, ac eithrio—
  • (i) os yw'n ystyried, neu
  • (ii) i'r graddau y mae'n ystyried
  • ei bod yn amhriodol gwneud hynny.
  • (4) Nid yw methiant person i gymryd rhan yn ymgynghoriad y Comisiynydd yn atal y
  • Comisiynydd rhag cynnal yr ymchwiliad safonau.
  • (5) Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol”—
  • (a) yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson penodol, yw'r person
  • hwnnw;
  • (b) yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â grˆwp o bersonau, yw
  • personau—
  • (i) yr ymddengys i'r Comisiynydd eu bod yn aelodau o'r grŵp, a
  • (ii) y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb y Comisiynydd.
  • Adroddiadau safonau
  • 64 Adroddiad safonau
  • (1) Ar ôl cynnal ymchwiliad safonau, rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad safonau.
  • (2) Dogfen sy'n nodi'r canlynol yw adroddiad safonau—
  • (a) casgliadau'r ymchwiliad safonau, a
  • (b) rhesymau'r Comisiynydd dros ddod i'r casgliadau hynny.
  • (3) Os—
  • (a) casgliadau'r ymchwiliad (boed yn llwyr neu'n rhannol) yw y dylai safonau fod
  • yn benodol gymwys i P, a
  • (b) nad yw unrhyw un neu ragor neu'r oll o'r safonau hynny wedi ei phennu neu
  • eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1),
  • rhaid i'r adroddiad nodi'r safonau sydd heb eu pennu.
  • (4) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl llunio adroddiad safonau—
  • (a) rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad—
  • (i) at bob person perthnasol,
  • (ii) at y Panel Cynghori,
  • (iii) at bob person a gymerodd ran yn ymgynghoriad y Comisiynydd yn
  • unol ag adran 63, a
  • (iv) at Weinidogion Cymru, a