Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- (b) caiff y Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad at unrhyw berson arall a
- chanddo ddiddordeb yn yr adroddiad ym marn y Comisiynydd.
- (5) Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol”—
- (a) yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson penodol, yw'r person
- hwnnw;
- (b) yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â grˆwp o bersonau, yw
- personau—
- (i)
- yr ymddengys i'r Comisiynydd eu bod yn aelodau o'r grŵp, a
- (ii) y mae'n briodol anfon copi o'r adroddiad atynt yn nhyb y
- Comisiynydd.
- Pŵer cyfarwyddo Gweinidogion Cymru
- 65
- Cyfarwyddyd i gynnal ymchwiliad safonau
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys os bydd Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan
- adran 16 i roi cyfarwyddyd i'r Comisiynydd er mwyn ei gyfarwyddo i gynnal
- ymchwiliad safonau mewn cysylltiad â pherson neu grŵp o bersonau.
- (2) Rhaid i'r cyfarwyddyd bennu'r materion a ganlyn—
- (a) y person, neu'r grˆwp o bersonau y mae'r ymchwiliad i'w gynnal mewn
- cysylltiad ag ef;
- (b) pwnc yr ymchwiliad;
- (c) y rhesymau pam y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y dylai'r Comisiynydd
- gynnal yr ymchwiliad safonau;
- (d) y cyfnod (y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na chwe mis) y mae'n rhaid
- i'r Comisiynydd gynnal yr ymchwiliad safonau cyn iddo ddod i ben.
- (3) Nid yw is-adran (2) yn atal y cyfarwyddyd rhag pennu materion eraill.
- Sylw sydd i'w roi i adroddiad safonau
- 66
- Gweinidogion Cymru i roi sylw dyladwy i adroddiad
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd wedi cynnal ymchwiliad safonau
- ac wedi llunio adroddiad safonau (boed o dan gyfarwyddyd neu ar gais
- Gweinidogion Cymru).
- (2) Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy i'r adroddiad safonau wrth benderfynu
- ai i arfer ai peidio y pwerau sydd wedi eu rhoi iddynt gan y Rhan hon, a sut i wneud
- hynny.