Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- PENNOD 9
- CYFFREDINOL
- Eithrio darlledu
- 67 Eithrio darlledu
- (1) Nid yw'r Mesur hwn—
- (a) yn ei gwneud yn ofynnol, na
- (b) yn awdurdodi person i'w gwneud yn ofynnol,
- i berson gydymffurfio â safon os yw'r safon honno, ac i'r graddau y mae'r safon honno, yn ymwneud â darlledu.
- (2) Yn yr adran hon—
- (a) ystyr “darlledu” yw comisiynu, cynhyrchu, amserlennu, trawsyrru neu ddosbarthu rhaglenni (gan gynnwys hysbysebion, is-deitlau, cyhoeddiadau cyswllt a theletestun), gwasanaethau mynediad, rhyngweithgarwch, cynnwys ar-lein ac allbwn arall tebyg ei natur ar gyfer y teledu, y radio, y rhyngrwyd neu lwyfannau ar-lein neu ddi-wifr eraill;
- (b) ond nid yw cyfeiriadau at ddarlledu yn cynnwys unrhyw weithgaredd a gyflawnir mewn cysylltiad â darlledu (onid darlledu yw'r gweithgaredd ei hun).
- Codau ymarfer
- 68 Codau ymarfer
- (1) Caiff y Comisiynydd ddyroddi codau ymarfer at ddiben darparu canllawiau ymarferol am ofynion unrhyw safonau a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran
- 26(1) (“codau ymarfer safonau”).
- (2) Caiff y Comisiynydd adolygu codau ymarfer safonau neu eu tynnu'n ôl.
- (3) Rhaid i'r Comisiynydd beidio â dyroddi, adolygu neu dynnu'n ôl god ymarfer safonau heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.
- (4) Cyn ceisio'r cydsyniad hwnnw, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori—
- (a) â'r personau y mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio â'r safon neu â'r safonau y mae'r cod ymarfer yn ymwneud â hi neu â hwy, a
- (b) â'r Panel Cynghori.
- (5) Pan fo cod ymarfer yn cael ei ddyroddi gan y Comisiynydd, rhaid i'r Comisiynydd
- hefyd ddyroddi hysbysiad ysgrifenedig—
- (a) sy'n nodi pa god sydd dan sylw ac sy'n datgan dyddiad y dyroddi, a
- (b) sy'n pennu safon neu safonau y mae'r cod yn ymwneud â hi neu â hwy.
- (6) Pan fo'r Comisiynydd yn tynnu cod ymarfer yn ôl, rhaid i'r Comisiynydd ddyroddi hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r cod dan sylw ac yn datgan y dyddiad y mae'r cod i beidio â bod yn effeithiol.