Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
  • 69 Methiant i gydymffurfio â chodau
  • (1) Nid yw methiant person i gydymffurfio â darpariaeth mewn cod ymarfer a gymeradwywyd yn peri i'r person hwnnw fod yn agored i gamau gorfodi o unrhyw fath.
  • (2) Ond os cymerir unrhyw gamau o dan y Mesur hwn mewn perthynas â methiant person (P) i gydymffurfio â safon (“y methiant safonau honedig”)—
  • (a) caniateir dibynnu ar fethiant P i gydymffurfio â darpariaeth berthnasol mewn cod ymarfer a gymeradwywyd fel rhywbeth sy'n tueddu i gadarnhau bod P yn atebol am y methiant safonau honedig, a
  • (b) caniateir dibynnu ar gydymffurfedd â darpariaeth berthnasol mewn cod ymarfer a gymeradwywyd fel rhywbeth sy'n tueddu i gadarnhau nad yw P yn atebol am y methiant safonau honedig.
  • (3) Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at god ymarfer a gymeradwywyd yn gyfeiriadau—
  • (a) at god ymarfer safonau fel y mae'n effeithiol am y tro, a
  • (b) pan fo cod ymarfer safonau wedi ei adolygu, at y cod hwnnw fel y'i hadolygwyd fel y mae'n effeithiol am y tro.
  • Dehongli
  • 70 Dehongli
  • (1) Yn y Rhan hon—
  • (a) mae cyfeiriadau at fod person yn agored i orfod cydymffurfio â safonau i'w
  • darllen yn unol ag adran 33;
  • (b) mae cyfeiriadau at gofnod person yn y tabl yn Atodlen 6 neu'r tabl yn Atodlen 8 i'w darllen yn unol ag adran 34;
  • (c) mae cyfeiriadau at fod safon yn gymwysadwy i berson i'w darllen yn unol ag adrannau 36 a 37;
  • (d) mae cyfeiriadau at fod safon yn benodol gymwys i berson i'w darllen yn unol ag adran 39.