Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
  • RHAN 5
  • GORFODI SAFONAU
  • PENNOD 1
  • YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Â SAFONAU ETC
  • Ymchwiliadau
  • 71 Ymchwilio i fethiant i gydymffurfio â safonau etc
  • (1) Caiff y Comisiynydd ymchwilio i a yw person (D) wedi methu â chydymffurfio â
  • gofyniad perthnasol.
  • (2) Yn y Rhan hon, ystyr “gofyniad perthnasol” yw unrhyw un neu ragor o'r canlynol—
  • (a) dyletswydd i gydymffurfio â safon a bennir gan Weinidogion Cymru (gweler
  • adran 25);
  • (b) gofyniad a gynhwysir mewn hysbysiad penderfynu yn rhinwedd adran 79
  • (gofyniad i baratoi cynllun gweithredu, neu i gymryd camau);
  • (c) cynllun gweithredu (gweler adrannau 79 a 80);
  • (d) gofyniad a gynhwysir mewn hysbysiad penderfynu yn rhinwedd adran 82
  • (rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant i gydymffurfio).
  • (3) Os dyletswydd i gydymffurfio â safon yw'r gofyniad perthnasol, dim ond os yw'n
  • amau bod D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol y caiff y
  • Comisiynydd gynnal ymchwiliad o dan yr adran hon.
  • (4) Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn ag ymchwiliadau.
  • 72 Terfynu ymchwiliad
  • (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad o dan adran
  • 71.
  • (2) Caiff y Comisiynydd derfynu'r ymchwiliad ar unrhyw adeg.
  • (3) Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu terfynu'r ymchwiliad, rhaid i'r Comisiynydd—
  • (a) hysbysu pob person a chanddo fuddiant, a
  • (b) hysbysu D o'r rhesymau dros ddod i'r penderfyniad.
  • (4) Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag is-adran (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol
  • ar ôl dod i'r penderfyniad.
  • Dyfarnu ar ymchwiliad
  • 73 Dyfarnu ar ymchwiliad
  • (1) Mae'r adran hon yn gymwys—
  • (a) os yw'r Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad o dan adran 71, a
  • (b) os nad yw'r Comisiynydd yn terfynu'r ymchwiliad.