Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
  • (2) Rhaid i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad
  • perthnasol ai peidio.
  • (3) Rhaid i'r Comisiynydd—
  • (a) llunio adroddiad ar yr ymchwiliad, a
  • (b) rhoi copi o'r adroddiad ar yr ymchwiliad i bob person a chanddo fuddiant.
  • (4) Rhaid i'r Comisiynydd—
  • (a) rhoi hysbysiad penderfynu i D, a
  • (b) rhoi copi o'r hysbysiad penderfynu i bob person arall a chanddo fuddiant.
  • (5) Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.
  • Adroddiadau ar ymchwiliadau
  • 74 Adroddiadau ar ymchwiliadau
  • (1) Yn y Mesur hwn, ystyr “adroddiad ar ymchwiliad” yw adroddiad ar ymchwiliad o
  • dan adran 71 sy'n cynnwys pob un o'r canlynol—
  • (a) cylch gorchwyl yr ymchwiliad;
  • (b) crynodeb o'r dystiolaeth a gymerwyd yn ystod yr ymchwiliad;
  • (c) canfyddiadau'r Comisiynydd ar yr ymchwiliad;
  • (d) dyfarniad y Comisiynydd ar a yw D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad
  • perthnasol ai peidio;
  • (e) datganiad ar a yw'r Comisiynydd am weithredu ymhellach;
  • (f) os yw'r Comisiynydd am weithredu ymhellach, datganiad ar y gweithredu
  • hwnnw.
  • (2) Nid yw is-adran (1) yn atal y Comisiynydd rhag cynnwys materion eraill mewn
  • adroddiad ar ymchwiliad.
  • Hysbysiadau penderfynu
  • 75 Hysbysiadau penderfynu
  • (1) Yn y Mesur hwn ystyr “hysbysiad penderfynu” yw hysbysiad sy'n datgan dyfarniad
  • y Comisiynydd ar a yw D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol ai
  • peidio.
  • (2) Nid yw is-adran (1) yn atal hysbysiad penderfynu rhag cynnwys materion eraill (ac mae darpariaethau penodol yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i faterion eraill gael eu cynnwys mewn amgylchiadau penodol).
  • Dim methiant i gydymffurfio: opsiynau'r Comisiynydd
  • 76 Dim methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol
  • (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu nad yw D wedi methu
  • â chydymffurfio â gofyniad perthnasol.
  • (2) Caiff y Comisiynydd—