Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- (a) peidio â gweithredu ymhellach, neu
- (b) gweithredu o dan is-adran (3).
- (3) Caiff y Comisiynydd wneud un neu ragor o'r pethau a ganlyn—
- (a) rhoi argymhellion i D neu i unrhyw berson arall;
- (b) rhoi cyngor i D neu i unrhyw berson arall.
- (4) Os yw'r ymchwiliad a arweiniodd at y dyfarniad yn dilyn cwyn a wnaed o dan adran
- 93, rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol roi gwybod i'r person a wnaeth y gŵyn
- am yr hawl i apelio o dan adran 99.
- (5) Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.
- (6) Yn yr adran hon ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad
- penderfynu y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i'r person
- a wnaeth y gŵyn o dan adran 93.
- Methiant i gydymffurfio: opsiynau'r Comisiynydd
- 77 Methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu bod D wedi methu â
- chydymffurfio â gofyniad perthnasol.
- (2) Caiff y Comisiynydd—
- (a) beidio â gweithredu ymhellach,
- (b) gweithredu o dan is-adran (3), neu
- (c) gweithredu o dan is-adran (4).
- (3) Caiff y Comisiynydd wneud un neu ragor o'r pethau a ganlyn—
- (a) ei gwneud yn ofynnol i D baratoi cynllun gweithredu at y diben o atal methiant
- D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd;
- (b) ei gwneud yn ofynnol i D gymryd camau at y diben o atal methiant D i
- gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd;
- (c) rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol;
- (d) ei gwneud yn ofynnol i D roi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio â'r
- gofyniad perthnasol;
- (e) gosod cosb sifil ar D.
- (4) Caiff y Comisiynydd wneud un neu ragor o'r pethau a ganlyn—
- (a) rhoi argymhellion i D neu i unrhyw berson arall;
- (b) rhoi cyngor i D neu i unrhyw berson arall;
- (c) ceisio ymrwymo mewn cytundeb setlo gyda D (gweler Pennod 2), ond dim ond
- os dyletswydd i gydymffurfio â safon yw'r gofyniad perthnasol.
- (5) Os yw'r Comisiynydd yn ceisio ymrwymo mewn cytundeb setlo gyda D—
- (a) nid oes gorfodaeth ar D i ymrwymo yn y cytundeb hwnnw;