Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
  • (a) llunio cynllun drafft cyntaf, a
  • (b) rhoi'r drafft hwnnw i'r Comisiynydd.
  • (4) Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol hysbysu D—
  • (a) o'r canlyniadau os nad yw D yn cydymffurfio â gofyniad sydd wedi ei
  • gynnwys yn yr hysbysiad yn rhinwedd yr adran hon; a
  • (b) o'r hawl i apelio o dan adran 95.
  • (5) Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.
  • (6) Yn yr adran hon ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i D.
  • 80 Cynlluniau gweithredu
  • (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D
  • sy'n ei gwneud yn ofynnol i D baratoi cynllun gweithredu.
  • (2) Rhaid i D roi cynllun drafft cyntaf i'r Comisiynydd o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad penderfynu.
  • (3) Ar ôl i gynllun drafft cyntaf ddod i law oddi wrth berson rhaid i'r Comisiynydd—
  • (a) ei gymeradwyo, neu
  • (b) rhoi i'r person hysbysiad—
  • (i) sy'n datgan nad yw'r drafft yn ddigonol,
  • (ii) sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person roi drafft diwygiedig i'r
  • Comisiynydd erbyn amser penodedig, a
  • (iii) sy'n nodi y caniateir iddo wneud argymhellion ynghylch cynnwys y
  • drafft diwygiedig.
  • (4) Mae is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas â chynllun drafft diwygiedig fel y
  • mae'n gymwys mewn perthynas â chynllun drafft cyntaf.
  • (5) Daw cynllun gweithredu i rym—
  • (a) ar ddiwedd cyfnod o chwe wythnos yn dechrau ar y dyddiad y rhoddir drafft
  • cyntaf neu ddrafft diwygiedig i'r Comisiynydd, os daw'r cyfnod hwnnw i ben
  • heb i'r Comisiynydd—
  • (i) rhoi hysbysiad o dan is-adran (3)(b), neu
  • (ii) gwneud cais am orchymyn o dan is-adran (6)(b), neu
  • (b) ar yr adeg pryd y bydd llys yn gwrthod gwneud gorchymyn o dan is-adran
  • (6)(b) mewn perthynas â drafft diwygiedig o'r cynllun.
  • (6) Caiff y Comisiynydd wneud cais i lys sirol—
  • (a) am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson roi cynllun drafft cyntaf i'r Comisiynydd erbyn amser a bennir yn y gorchymyn; neu
  • (b) am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi rhoi cynllun drafft diwygiedig i'r Comisiynydd baratoi a rhoi cynllun drafft diwygiedig pellach i'r Comisiynydd—
  • (i) erbyn amser a bennir yn y gorchymyn, a