Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
  • (ii) yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau ynghylch cynnwys y cynllun a bennir yn y gorchymyn.
  • (7) Caniateir i gynllun gweithredu gael ei amrywio drwy gytundeb rhwng y Comisiynydd a'r person a'i paratôdd.
  • (8) Mae paragraffau 5 i 12 o Atodlen 10 yn gymwys mewn perthynas â bod y Comisiynydd yn ystyried a yw cynllun gweithredu drafft yn ddigonol fel y mae'r paragraffau hynny'n gymwys mewn perthynas â chynnal ymchwiliad.
  • Rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio
  • 81 Rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant i gydymffurfio
  • (1) Yn y Mesur hwn, mae cyfeiriadau at fod y Comisiynydd yn rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol yn gyfeiriadau at fod y Comisiynydd yn gwneud y naill neu'r llall o'r canlynol neu'r naill a'r llall o'r
  • canlynol—
  • (a) cyhoeddi datganiad yn dweud bod D wedi methu â chydymffurfio â'r
  • gofyniad perthnasol;
  • (b) cyhoeddi'r adroddiad ar yr ymchwiliad a luniwyd mewn perthynas â'r
  • ymchwiliad i D.
  • (2) Yn y Mesur hwn, mae cyfeiriadau at fod gofyn i D roi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol yn gyfeiriadau at fod gofyn i D roi cyhoeddusrwydd i unrhyw un neu ragor neu'r oll o'r canlynol—
  • (a) datganiad bod D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol;
  • (b) yr adroddiad ar yr ymchwiliad a luniwyd mewn perthynas â'r ymchwiliad i D;
  • (c) gwybodaeth arall sy'n ymwneud â methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad
  • perthnasol.
  • 82 Ei gwneud yn ofynnol rhoi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio
  • (1) Mae'r adran hon yn gymwys os bydd y Comisiynydd—
  • (a) yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol, a
  • (b) yn penderfynu gwneud y naill neu'r llall o'r canlynol neu'r naill a'r llall o'r canlynol—
  • (i) rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol;
  • (ii) ei gwneud yn ofynnol i D roi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol.
  • (2) Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol ddatgan yr hyn y mae'r Comisiynydd—
  • (a) i'w wneud er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D;
  • (b) yn ei gwneud yn ofynnol i D ei wneud er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i'r methiant.
  • (3) Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol roi gwybod i D—
  • (a) beth fydd y canlyniadau os na fydd D yn cydymffurfio â gofyniad sydd wedi ei gynnwys yn yr hysbysiad yn rhinwedd yr adran hon; a