Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
  • (b) am yr hawl i apelio o dan adran 95.
  • (4) Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.
  • (5) Yn yr adran hon ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad
  • penderfynu y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i D.
  • Cosbau sifil
  • 83 Cosbau sifil
  • (1) Rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i'r materion a nodir yn is-adran (2) pan fydd yn penderfynu—
  • (a) ai i roi cosb sifil i unrhyw berson ai peidio, a
  • (b) ynghylch swm unrhyw gosb sifil.
  • (2) Y canlynol yw'r materion hynny—
  • (a) pa mor ddifrifol yw'r mater y mae'r gosb sifil i'w rhoi mewn cysylltiad ag ef;
  • (b) amgylchiadau'r person y mae'r gosb sifil i'w rhoi iddo;
  • (c) yr angen am atal parhau neu ailadrodd y mater y mae'r gosb sifil i'w rhoi mewn cysylltiad ag ef.
  • (3) Nid yw is-adran (1) yn atal y Comisiynydd rhag rhoi sylw i faterion eraill.
  • (4) Rhaid i gosb sifil beidio â bod yn fwy na £5,000.
  • (5) Mae cosb sifil yn adferadwy gan y Comisiynydd fel dyled sy'n ddyladwy i'r Comisiynydd.
  • (6) Rhaid i'r Comisiynydd dalu'r holl gosbau sifil sy'n dod i law i Gronfa Gyfunol Cymru.
  • (7) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, roi swm gwahanol yn lle'r swm sydd wedi ei bennu o bryd i'w gilydd yn is-adran (4).
  • (8) Yn yr adran hon ystyr “cosb sifil” yw unrhyw gosb sifil y caiff y Comisiynydd ei rhoi.
  • 84 Rhoi cosb sifil
  • (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd—
  • (a) yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol, a
  • (b) yn penderfynu rhoi cosb sifil i D.
  • (2) Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol ddatgan—
  • (a) y gosb sifil y mae'r Comisiynydd wedi penderfynu ei rhoi;
  • (b) sut y caniateir i'r gosb sifil gael ei thalu;
  • (c) y cyfnod y mae'n rhaid talu'r gosb sifil cyn iddo ddod i ben (ac y mae'n rhaid iddo fod yn gyfnod o ddim llai na 28 o ddiwrnodau).
  • (3) Rhaid i hysbysiad penderfynu perthnasol roi gwybod hefyd i D—
  • (a) beth fydd y canlyniadau os na fydd D yn talu'r gosb sifil; a