Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
  • (b) am yr hawl i apelio o dan adran 95.
  • (4) Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.
  • (5) Yn yr adran hon ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad penderfynu y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i D. Ymgynghori
  • 85 Ymgynghori cyn dyfarnu'n derfynol etc
  • (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad o
  • dan adran 71.
  • (2) Cyn dyfarnu'n derfynol ynghylch a yw D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad
  • perthnasol ai peidio, rhaid i'r Comisiynydd roi i bob person a chanddo fuddiant
  • hysbysiad o'r dyfarniad y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei roi.
  • (3) Cyn penderfynu'n derfynol pa weithredu pellach i'w wneud, os o gwbl, rhaid i'r
  • Comisiynydd roi i bob person a chanddo fuddiant—
  • (a) hysbysiad yn nodi a yw'r Comisiynydd yn bwriadu gweithredu ymhellach ai
  • peidio, a datganiad am resymau'r Comisiynydd dros fwriadu gwneud hynny;
  • (b) os yw'r Comisiynydd yn bwriadu gweithredu ymhellach, hysbysiad yn nodi'r
  • camau y mae'n bwriadu eu cymryd, a datganiad am resymau'r Comisiynydd
  • dros fwriadu gweithredu felly; ac
  • (c) copïau drafft o'r hysbysiad penderfynu y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei roi.
  • (4) Cyn setlo adroddiad yr ymchwiliad, rhaid i'r Comisiynydd roi drafft o'r adroddiad arfaethedig i bob person a chanddo fuddiant.
  • (5) Rhaid i'r Comisiynydd—
  • (a) rhoi cyfle i D i wneud sylwadau ynghylch y cynigion y cyfeirir atynt yn isadrannau (2), (3) a (4), a
  • (b) rhoi cyfle i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant i wneud sylwadau ynghylch y cynigion y cyfeirir atynt yn is-adrannau (2) a (4).
  • (6) Rhaid i'r Comisiynydd roi sylw dyladwy i unrhyw sylwadau a wneir gan D neu gan unrhyw berson arall a chanddo fuddiant cyn cymryd unrhyw gam y mae'r sylwadau'n ymwneud ag ef.
  • (7) Y Comisiynydd sydd i bennu'r cyfnod a ganiateir i berson ar gyfer gwneud sylwadau
  • yn unol ag is-adran (5); ond rhaid i'r cyfnod beidio â bod yn llai na 28 o ddiwrnodau.
  • 86 Ymgynghori cyn dyfarnu'n derfynol yn dilyn apêl
  • (1) Mae'r adran hon yn gymwys os cyfarwyddir y Comisiynydd, yn dilyn apêl o dan adran 99 neu 101, neu'n dilyn unrhyw apêl bellach, i ddyfarnu o dan adran 73 bod D wedi methu â chydymffurfio â safon (y “dyfarniad newydd”).
  • (2) Cyn penderfynu'n derfynol pa weithredu pellach i'w wneud, os o gwbl, ar sail y dyfarniad newydd, rhaid i'r Comisiynydd roi i bob person a chanddo fuddiant—
  • (a) hysbysiad yn nodi a yw'r Comisiynydd yn bwriadu gweithredu ymhellach ai peidio, a datganiad am resymau'r Comisiynydd dros fwriadu gwneud hynny;