Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- 47
- Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)
- (7) Yn yr adran hon, ystyr “apêl berthnasol” yw apêl i'r Tribiwnlys o dan adran 95 mewn cysylltiad â'r materion sydd wedi eu nodi yn yr hysbysiad penderfynu.
- Gorfodi gan lys sirol
- 88 Methiant i gydymffurfio â gofyniad i gymryd camau
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys os bydd y Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gymryd camau at y diben o atal methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd.
- (2) Caiff y Comisiynydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, wneud cais i lys sirol am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gydymffurfio â'r gofyniad yn yr hysbysiad penderfynu.
- (3) Yn yr adran hon ystyr “cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad penderfynu.
- 89 Methiant i gydymffurfio â chynllun gweithredu
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw D wedi llunio cynllun gweithredu yn unol ag
- adran 80.
- (2) Caiff y Comisiynydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, wneud cais i lys sirol am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gydymffurfio â'r cynllun gweithredu.
- (3) Yn yr adran hon ystyr “cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y daw'r cynllun gweithredu i rym.
- 90 Methiant i gydymffurfio â gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i fethiant i gydymffurfio
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gymryd camau i roi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio.
- (2) Caiff y Comisiynydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, wneud cais i lys sirol am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gydymffurfio â'r gofyniad yn yr hysbysiad penderfynu.
- (3) Yn yr adran hon ystyr “cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad penderfynu.
- PENNOD 2
- CYTUNDEBAU SETLO
- 91 Cytundebau setlo
- (1) Mae cyfeiriad at gytundeb setlo rhwng y Comisiynydd a pherson (D) ynghylch methiant D i gydymffurfio â safon (y “methiant perthnasol”) yn gyfeiriad at gytundeb sy'n cynnwys—
- (a) ymgymeriad gan D i wneud un neu ragor o'r pethau canlynol—
- (i) peidio â methu â chydymffurfio ag un neu ragor o safonau;
- (ii) gweithredu mewn ffordd benodol (a gaiff gynnwys paratoi cynllun o
- gamau sydd i'w cymryd, ond heb fod wedi ei gyfyngu i hynny);