Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

odistiaid, mewn stâd a alwai am arweiniad a chynorthwy. Hyn a gafodd, a hyn a ddefnyddiodd.

Yr oedd y Parch. P. Williams wedi ei gynysgaethu â chorff cryf, ac â meddwl diysgog, yn gallu llafurio llawer, teithio yn faith, a chyd-ddwyn â llety a bywioliaeth wael ac isel. Yr oedd ei ddoniau yn dra addas at gyrhaeddiadau ei wrandawyr, yn yr oes dywell y llafuriai ynddi. Pregethai yn rymus ac effeithiol ar drueni dyn wrth natur, ac am drefn rasol yr efengyl yn ei achubiaeth trwy Gyfryngwr.

Ni a gawn achlysur eto, wrth olrhain cynydd Methodistiaeth, i alw sylw y darllenydd, yn awr ac eilwaith, at lafur y gŵr parchedig hwn, mewn undeb ag eraill, i ddwyn yn mlaen y diwygiad yn Nghymru. Yr oedd yn angenrheidiol, tebygid, rhoddi y bras-olwg a roddwyd o'r offerynau cyntaf yn y Deheubarth, a ddefnyddiwyd mor nodedig yn llaw yr Arglwydd, i roddi yr ysgogiad cychwynol i'r gwaith a gynyddodd mor rhyfeddol ar ol hyny.

Yr oedd yr holl offerynau a fu hyd yma dan sylw, mewn cysylltiad ag eglwys Loegr; gwŷr wedi eu dwyn i fyny ynddi, ac oll yn weinidogion urddedig ynddi, neu wedi bwriadu bod felly; ond ni a welsom i raddau eisoes, ac ni a gawn weled eto yn eglurach, nad oedd y cysylltiad hwn yn fanteisiol iddynt i barhau ynddo, tra yr ymroddent i wasanaethu y diwygiad a ddechreuasid trwyddynt. Gwelir yn fwy-fwy eglur, mai rhaid oedd ymadael ag un o'r ddau gysylltiad. Ar y dechre, dysgwylient yn ddiamheuol y gallent gadw y diwygiad o fewn ffiniau y sefydliad gwladol, a'i wneuthur yn wasanaethgar i'w lwyddiant; ond hwy a ddeallasant yn raddol fod hyn yn ormod gorchwyl. Ymwrthodai yr eglwys â'r diwygwyr; ac ymwrthod y bu raid i'r diwygwyr â'r eglwys. Gan mai rhaid oedd ymwrthod ag un i'r dyben i ymlynu wrth y llall, dewisasant yn hytrach gymeryd eu harwain gan lais rhagluniaeth a chydwybod, yn y ffordd a fyddai fwyaf defnyddiol i achos yr efengyl, na gwrando ar awdurdodau dynol i ymgadw o fewn terfynau gosodedig, bydded y canlyniad y peth a fyddai.

Yr oedd rhyw gymaint o'r marwor Methodistaidd wedi disgyn yn y blynyddoedd cyntaf o'r diwygiad, ar bump, o leiaf, o siroedd y Deheubarth. Yr oedd Rowlands yn cyffroi sir Aberteifi, a H. Davies yn gwneyd yr un peth yn sir Benfro. Yr oedd y ddau Williams, a Howel Harris, ac yn enwedig yr olaf, yn llafurio yn llai sefydlog; a chyrhaeddai eu gweinidogaeth i bob cwr o'r Deheudir lle y byddai drws yn agored iddynt. Trwy eu cyd-lafur, yr oedd goleuni yr efengyl yn ymdaenu; yr oedd tywyllwch yr oesoedd blaenorol yn dechreu teneuo; yr oedd ambell un, bellach, mewn llaweroedd o lanerchi y wlad, yn sychedu am weinidogaeth y gair yn ei blas priodol ei hun; ac yn eiddigeddu dros ledaeniad y gwirionedd yn mhlith ei gymydogion. Yn y blynyddoedd cyntaf hefyd, sef rhwng 1736—50, yr oedd llawer o ugeiniau, os nad cannoedd, o eglwysi bychain wedi eu ffurfio trwy Gymru oll, a miloedd o gymunwyr yn ymgynull i Langeitho, ac i eglwys Prengast, bob mis; dynion wedi eu deffro yn achos eu heneidiau, ac wedi profi melysder yr efengyl. Yr oedd amrywiol weinidogion eraill yn eglwys Loegr wedi