Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymuno â'r gwŷr a enwyd, gan roddi mesur o gymhorth i'r diwygwyr penaf. Cododd hefyd amryw ugeiniau o wŷr lleyg yn ngwahanol barthau o'r wlad, y rhai, wedi eu deffro am eu cyflyrau eu hunain, ac yn meddu mwy neu lai o ddawn a gwybodaeth, a annogwyd gan y tadau i gynghori a rhybuddio eu cydwladwyr yn y pethau a berthynent i'w heddwch. Nid oedd un addoldy neu gapel wedi ei godi am lawer o flynyddoedd ar ol yr ysgogiad cyntaf yn y fl. 1736; pregethai yr offeiriaid yn y llanau bob amser y rhoddid caniatâd iddynt; brydiau eraill, ymgynullent mewn tai anedd, ar y maesydd, neu yn heolydd y trefydd, gan ymdrechu dwyn dynion i wybodaeth y gwirionedd. Y capel cyntaf a godwyd, medd rhai, ydoedd capel Llanfair-Muallt, yr hwn, ar gyfrif mai efe oedd y cyntaf, a alwyd ALPHA, y llythyren gyntaf yn yr iaith Roeg. Dywed eraill mai capel y Groes-wen, ger Caerphili, oedd y cyntaf. Adeiladwyd y rhai'n, tebygid, tua'r flwyddyn 1747. Y flwyddyn ganlynol, adeiladwyd un neu ddau yn ychwanegol yn sir Gaerfyrddin, a chapel Aberthin, yn sir Forganwg, yn y fl. 1749. Yr oedd, gan hyny, bedwar neu bump o gapelau bychain wedi eu codi yn y fl. 1750; ond yr oedd, ar yr un pryd, rai cannoedd o leoedd yr arferid pregethu ynddynt, ac y cynelid moddion eglwysig; eithr nid oedd y sacramentau o fedydd a swper yr Arglwydd yn cael eu gweinyddu ond gan y clerigwyr, ac felly y parhaodd am faith flynyddoedd ar ol hyn.

Wele yma fras—olwg i'r darllenydd ar gychwyniad Methodistiaeth yn Neheubarth Cymru; a rhyw gymaint o hanes ei sylfaenwyr. Cawn achlysur eto i ddychwelyd at eu hanes dan amgylchiadau eraill, wrth osod allan gynydd y gwaith a ddechreuasid fel hyn ganddynt; ond angenrheidiol yn awr a fydd rhoddi trem ar y modd y cychwynodd Methodistiaeth yn Ngwynedd: at hyn, bellach, y cawn alw sylw y darllenydd.

PENNOD II.

YSGOGIADAU CYCHWYNOL YN NGWYNEDD.

SYLWADAU ARWEINIOL—JOHN ROBERTS, GERLLAW NEFYN—FRANCIS EVANS, A WILLIAM PRITCHARD—LEWIS REES—JENKYN MORGAN—YMWELIAD LEWIS REES A LLANUWCHLYN.

GALWASOM sylw y darllenydd eisoes, sef yn y dosbarth cyntaf o'r gwaith hwn, at lafur a llwyddiant rhai gwŷr rhagorol, a fuont o fendith anarferol i Gymru yn eu tymhor. Gwasanaethodd rhai o honynt eu cenedl yn benaf drwy eu dysg, a thrwy eu llafur mewn llenyddiaeth. Y cyfryw oedd William Salisbury, y Doctoriaid Davies, Morgan, a Parry, ac Edmund Prys. Bu llafur y gwŷr hyny o fendith fawr i'r genedl, gan mai trwyddynt hwy yn benaf y dygwyd yr ysgrythyrau santaidd, o leiaf yn yr oesoedd diweddaraf, i iaith y Cymry. Fe fu eraill yn fendithiol iawn trwy eu llafur gweinidogaethol, i ddeffroi ystyriaeth cannoedd o'n henafiaid difraw at eu hachos tragwyddol. Y cyfryw rai oeddynt Wroth ac Erbury, Walter Cradoc, a Vavasor