Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymddifyru mewn coeg-ddigrifwch. Wedi aros yno un nos Sul yn hwy nag arferol, collodd William Pritchard y ffordd wrth fyned adref: ac wedi ymddyrysu enyd, canfu oleuni, a chyrchodd ato: adnabu y lle yn ebrwydd, a chynygiodd eilwaith fyned adref, ond dyrysodd drachefn; a hyn a wnaeth y drydedd waith, a phob tro arweinid ef at yr un goleuni. Parodd hyn iddo synu, a dwys-fyfyrio pa beth a allai hyn fod. Edrychodd, pa fodd bynag, drwy ffenestr y tŷ lle y gwelodd y goleuni, a chanfu ŵr yn darllen y Beibl, ac ar ol darllen, yn disgyn ar ei liniau i weddio. Ar ol i'r gŵr orphen gweddio, medrodd William Pritchard y ffordd adref heb un anhawsder; ond parodd yr amgylchiad iddo ystyried ei ffyrdd, ac arafu ei gamrau. Y gŵr a glywodd ef yn gweddio oedd Francis Evans, o'r Pen-y-cae-newydd. Suddasai rhai o eiriau y bennod a ddarllenwyd, ac o'r weddi, i galon y gwrandawr, ac ni allai ymysgwyd oddiwrth eu heffeithiau. Bu ddwy flynedd dan argyhoeddiad, a mynych gyrchai i leoedd dirgel i weddio. Ennillodd ddau o'i weision i adael eu hoferedd, a thynodd arno ei hunan sylw yr holl gymydogaeth. Y gŵr hwn yn fuan ar ol hyn a fu yn noddwr i Jenkin Morgan, ysgolfeistr a chynghorwr tra buddiol a llwyddiannus, yr hwn a anfonasid i'r Gogledd gan y Parch. Griffith Jones, Llanddowror; ac yn ei dŷ ef y bu Howel Harris yn pregethu ar ei ddyfodiad y tro cyntaf i sir Gaernarfon.

Dywedais uchod fod Lewis Rees, gweinidog yr Annibynwyr yn Llanbrynmair, yn ddolen neillduol yn y gadwen ragluniaethol i ddwyn Methodistiaeth i Wynedd; a chan fod a wnelo y gŵr hwn â dyfodiad Howel Harris i'r Gogledd, ac â dyfodiad Jenkin Morgan i sir Gaernarfon, gorfydd i mi, cyn myned yn mhellach yn mlaen ar hanes William Pritchard, droi sylw y darllenydd at Lewis Rees, a Jenkin Morgan.

"Yr oedd Lewis Rees," meddai yr hen batriarch John Evans, "wedi ei gynysgaeddu â doniau helaeth, yn enwedig mewn gweddi." Ymddengys y byddai y gŵr parchus hwn yn arfer teithio i lawer o barthau y wlad i bregethu; ac yn mhlith manau eraill, ymwelai â thref y Bala, yn sir Feirionydd. Yr oedd yn nghymydogaeth y Bala ar y pryd ychydig o ymneillduwyr, y rhai oeddynt, gan mwyaf, yn ffrwyth gweinidogaeth Morgan Llwyd. Ar ol ei farwolaeth ef, ymwelid yn awr ac eilwaith â'r praidd bychan hwn gan amrywiol weinidogion eraill, megys Mr. Baddy o Ddinbych, Jervis o Lanfyllin, Kenrick o Fron-y-clydwr, a Lewis Rees o Lanbrynmair. Ar ryw dro, pan ydoedd y gŵr olaf yn y Bala, dygwyddodd fod un Meiric Dafydd, o'r Weirglawdd Gilfach, yn mhlwyf Llanuwchlyn, yn gwrando arno. Effeithiodd y bregeth yn ddwys arno, a bu daer ar y gweinidog i ddyfod i bregethu i'w dŷ, sef i'r Weirglawdd-Gilfach. Addawodd yntau fyned, a'r amser a benodwyd. Ar yr amser nodedig, daeth y gweinidog yn ol ei addewid, a daeth amryw o bobl y gymydogaeth i'r oedfa; ond yr oedd pawb â'u hosanau yn eu dwylaw, fel y byddai yn arferol yn eu plith yn y wlad hóno. Eisteddodd pawb o amgylch llawr y tŷ, â'u bysedd yn brysur ar eu gweill, fel y gwneid ar nosweithiau eraill yr arferent gyfarfod i gyd-wâu. Eisteddai y pregethwr wrth y tân, gan droi cîl ei lygad, yn awr ac eilwaith, ar y gynulleidfa brysur,