Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chai brawf fod eu brys i orphen eu hosanau, yn llawer mwy nag oedd eu dysgwyliad am un llesâd yn yr oedfa. Pan ddaeth yr awr i fyny, cododd oddiwrth y tân, a safodd wrth y bwrdd wrth ochr y llawr; cymerodd y Beibl yn ei law, a dysgwyliai yn ddilys y rhoisid heibio y gwaith i wrando y gair. Ond glynu yr oeddynt bob un wrth ei orchwyl gyda'r dyfalwch mwyaf. Gwnai rai sylwadau ar faterion y bennod; ond nid oedd dim yn tycio i lonyddu eu bysedd, nac i sefydlu eu hastudrwydd. Anturiodd y pregethwr, pa fodd bynag, i fyned i weddio, heb lawer o hyder y llwyddai y weddi yn fwy na'r bennod, oblegid yr olwg olaf a gafodd ar ei wrandawyr cyn cau ei lygaid, "oedd mewn prysur driniad ar eu gweill."

Yn ei weddi, "fe gafodd nerth gyda Duw, ac a orchfygodd." Cyn ei diwedd, clywai ocheneidiau dwysion yn eu plith; ac erbyn codi oddiar ei liniau, yr oedd pob hosan wedi cwympo i'r llawr.

Fe ddyry yr hanesyn uchod olwg i'r darllenydd pa fath agwedd yr oedd y wlad ynddi ar y pryd;—pa gan leied o syniad teilwng oedd gan y trigolion am addoliad Duw. Dyry olwg hefyd ar symledd diaddurn y moddion a ddefnyddiodd y Goruchaf i ddeffroi y trigolion o'u cwsg, ac i'w goleuo am bethau bywyd tragwyddol.

Y pryd hwn nid oedd dim Methodistiaeth yn Ngwynedd, ac nid oedd eto ond gwyll y boreu wedi ymddangos yn y Deheudir. Yr oedd Howel Harris, a Daniel Rowlands, eisoes wedi dechre cyffroi eu cymydogion, er ys blwyddyn neu ddwy, fe allai; ond nid oeddynt hyd yn hyn wedi anturio dros derfynau y Deheubarth. Clywsai Lewis Rees y son am Howel Harris, a pha bethau rhyfedd a wneid trwyddo yn ei wlad ei hun; ac er mai aelod o eglwys Loegr oedd un, ac ymneillduwr oedd y llall, deallodd Lewis Rees fod llaw yr Arglwydd gyda diwygiwr Trefeca, a meddyliodd yn ddiau mai dymunol iawn a fyddai ei gael i ymweled â'r Gogledd.

Ar un o'i deithiau gweinidogaethol, daeth Lewis Rees i ymweled â'r ychydig bobl druain a berthynai i'r eglwys ymneillduol yn Mhwllheli. Yr oedd hyn yn fuan ar ol y cyfnewidiad a gymerasai le yn meddwl William Pritchard, o Lasfryn Fawr. Nid wyf yn cael lle i gasglu fod William Pritchard ar y pryd wedi ymuno â'r ymneillduwyr, ond y cyfrifid ef eto yn aelod yn eglwys Loegr; ac edrychid arno gyda chryn radd o barch yn ei ardal, o herwydd ei ddysg a'i sefyllfa; a chyda gradd o anwyldeb gan yr ychydig dduwiolion a'i hadwaenai, o herwydd yr argoelion a welent o law yr Arglwydd arno. Ar ol pregeth gan Lewis Rees, daeth rhai o'r ychydig gyfeillion yno ato, gan gwyno wrtho eu bod yn isel a digalon, nad oedd ymron neb o newydd yn dyfod atynt, a bod y gwrandawyr yn lleihau.

Na lwfrhewch yn ormodol," ebe yntau, "ac nac ymollyngwch; y mae y wawr nefol yn dechreu tori gyda ni yn y Deheudir. Y mae acw ryw ddyn hynod iawn wedi codi yn ddiweddar, o'r enw Howel Harris, yr hwn sydd yn myned oddiamgylch, i'r trefydd a'r pentrefydd-y prif-ffyrdd a'r caean; ac fel og fawr, y mae yn rhwygo y ffordd yr elo."

"O," meddent hwythau, "na chaem ni ef yma i'n plith ni!"