Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y tŷ i glust-ymwrando; ac wrth wrando, glynodd y gair ynddo, fel y bu raid iddo dynu ymlaen i'r tŷ. Yn y man, un arall a'i canlynodd, a thrydydd, a phedwerydd, a phumed, nes y daethant o'r diwedd oll i'r tŷ, a'r hen delynwr hefyd; a gorfu arnynt ymlonyddu i wrando. Tra yr oeddynt yn gwrando, syrthiodd y fath ysbryd grymus o argyhoeddiad arnynt oll, y telynwr a chwbl, nes llefasant allan, fel y tair mil yn Jerusalem gynt (Act. ii, 37), os nid yn yr un geiriau, eto mewn geiriau ag oedd yn arwyddo yr un dychryn ac ofn yn achos eu heneidiau. Wedi yr oedfa, aethant allan dan lefain felly, ar hyd y ffyrdd a'r caeau, tua'u cartrefydd. Myfi a adwaenwn bump o'r bobl hyn, a gawsant eu galw yn yr oedfa hon, y rhai a barhausant yn syml a sylweddol yn eu proffes grefyddol hyd ddydd eu marwolaeth."

Y cyfryw ydyw y dysgrifiad a roes yr hen ŵr o'r oedfa ryfeddol hono. Gwelodd yr Arglwydd yn dda ddefnyddio Jenkin Morgan i roddi cychwyniad i ddiwygiad nerthol, effeithiau yr hwn a welwyd dros amser maith, ac ar wrthddrychau lawer. Y Jenkin Morgan hwn oedd yr ysgolfeistr y cynghorai y Parch. Lewis Rees i'r brodyr yn ardal Pwllheli ymofyn am ei gael atynt; ac i'w gyrchu ef y daeth yr hen weddiwr, Francis Evans o'r Bala.

Wedi i'r gŵr a enwyd olaf gael ei neges, a dychwelyd yn ol i'w wlad, arweiniodd Jenkin Morgan heibio ei dŷ ei hun, rhag i neb feddwl mai ymneillduwr ydoedd, a dygodd ef yn uniongyrchol i Lasfryn-Fawr, at William Pritchard yntau a aeth at offeiriad y plwyf i ddeisyf ei ffafr, trwy ganiatau i'r ysgol gael ei chadw yn y llan. Ond y caniatad hwn ni welodd y gŵr boneddig yn dda ei roddi, gan dybied, yn ddiau, fod yr ysgolfeistr yn un o'r crefyddwyr. Wedi cyfarfod â'r siomedigaeth hon am le i gadw yr ysgol, dywedai William Pritchard wrth y person, "Os oes genych chwi awdurdod ar eich eglwys, y mae genyf finau awdurdod ar gegin fy nhŷ; caiff gadw yr ysgol yno:" ac felly y bu. I'r ysgol hon daeth lluaws o blant, a rhai mewn oedran. Yr ysgolfeistr yntau oedd ddiwyd iawn gyda'i orchwyl, yn dysgu iddynt ddarllen, yn eu holwyddori, ac yn gweddio fore a hwyr. Trefnwyd cyfarfodydd hefyd iddo i gynghori neu bregethu, a deuai cryn nifer i wrando arno, ac ni fu ei lafur, chwaith, yn gwbl ofer. Nid oes lle i gredu fod tŷ neb yn yr ardal hòno y pryd hwn yn rhoddi derbyniad iddo, ond Glasfryn Fawr. Un tro, daeth dyn i'r oedfa â cherig yn ei logell, gan fwriadu lluchio y pregethwr â hwy; eithr Duw a annelodd ei air at ei galon ef, a bu gorfod iddo fwrw ymaith y cerig o un i un, fel yr oedd ei enaid yn goblygu i awdurdod y gwirionedd. Troes y gŵr hwn allan ag argoelion amlwg o dduwioldeb arno; troes allan yn bregethwr bendithiol i lawer o'i gydwladwyr. Ei enw ydoedd Richard Dafydd.

Wele yma ddechreuad bychan yr achos Methodistaidd yn sir Gaernarfon; a bychan, yn wir, ydoedd. Eto, yr oedd y dechreuad bychan hwn "fel boreu—oleuni, pan gyfodo haul foreu—gwaith heb gymylau; fel eginyn a dyf o'r ddaear, gan lewyrchiad yn ol gwlaw."

Gan fod enw y Parch. Lewis Rees, gweinidog eglwys annibynol yn Llanbrynmair, yn dygwydd yn fynych fel un a fu yn foddion arbenig i ddwyn