Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Methodistiaeth i Wynedd, nid annaturiol, tebygid, i'r darllenydd fyddai ewyllysio gwybod mwy o'i hanes.

Ganwyd ef yn sir Forganwg yn y fl. 1710; ac felly yr oedd ychydig yn henach na Harris a Rowlands. Wedi cael manteision helaeth yn ei ieuenctyd, aeth i athrofa dan ofal Vavasor Griffiths, yn sir Faesyfed; ond ni arosodd yno yn hir; ac ar gais neu gynghor ei athraw, yr hwn a ganfyddai ei gymhwysder rhagorol i'r weinidogaeth, a ymadawodd o'r ysgol wedi ychydig fisoedd, gan ymroddi o hyny allan i weinidogaeth yr efengyl. Fe ddaeth i Wynedd gyda'r duwiol a'r hynod Edmund Jones o Bont-y-pool, yr hwn a adwaenai amddifadrwydd y Gogledd o'r efengyl, ac a wyddai hefyd fod angen am weinidog ar yr eglwys fechan yn Llanbrynmair. Cyn i'r ddau ŵr gyrhaedd pen eu taith, collasant y ffordd, a buant dros rai oriau yn crwydro mewn lle a elwid Coed-y-fron. Yn y sefyllfa annymunol yma, ymroisant i ymddyddan â'u gilydd am bethau yr efengyl, a hynod y mwynhad a gawsant; dybenodd eu dyryswch hefyd trwy iddynt ddyfod i ben eu taith heb yn ddysgwyl, tua dau o'r gloch y bore. Yr oedd hyn tua dwy flynedd cyn i Howel Harris ddechreu pregethu, sef yn y fl. 1734.

Wedi ei sefydlu yn Llanbrynmair, ei enaid a gynhyrfwyd ynddo wrth weled fel yr oedd Gogledd Cymru wedi ei orchuddio â thywyllwch fel y fagddu, heb odid neb yn pregethu yr efengyl yn ei phurdeb a'i blas. Yr oedd newyn trwm yn y tir; "nid newyn am fara, ac nid syched am ddwfr, ond am wrando geiriau'r Arglwydd." Ar yr un pryd, yr oedd ychydig o bobl druain dlodion, fel lloffion grawnwin, eto ar gael, y rhai a obeithient yn enw yr Arglwydd. Yr oedd rhai o'r fath, fel y dwedwyd, yn ardal y Bala. Ymwelid â hwy yn awr ac eilwaith gan un Mr. Jervis, Llanfyllin, a Mr. Kenrick, Bron-y-clydwr. Ar ol marwolaeth Mr. Kenrick, y caed gan Mr. Lewis Rees ymweled â hwy; a dyma'r pryd y daeth Meiric Dafydd o'r Weirglawdd-Gilfach yn gydnabyddus ag ef, ac â'r gwirionedd drwyddo ef. Ai Lewis Rees i Lanuwchlyn bedair gwaith yn y flwyddyn, sef unwaith yn y chwarter, i bregethu iddynt. Gwnai hyn trwy anhawsdra mawr, a pherygl dirfawr. Yr oedd y ffordd yn faith, mynyddig, ac anhygyrch; y tywydd yn aml yn oer ac yn stormus; a phreswylwyr Dinas a Llan-y-Mowddwy, y pentrefydd ar ei ffordd, oeddynt ar ol deall ei neges, yn ffyrnig am ei ladd. Gorfyddai iddo yn aml fyned o Lanbrynmair i Lanuwchlyn, rhag eu hofn. Dywedir fod gan Meiric Dafydd frawd o'r enw Morgan, cryfach o gorff na'r cyffredin, ac yn adnabyddus fel ymladdwr mawr. Yr oedd gan y dyn dibris hwn, trwy ryw foddion, feddyliau caredig am y pregethwr, a dychwelai yn fynych gydag ef ar ddydd Llun, â phastwn onen mawr yn ei law, i'w hebrwng trwy Fowddwy, rhag iddo gael niwed gan yr erlidwyr. Ar ryw arwydd o derfysg, nid oedd raid iddo ond ysgwyd ei ddwrn, neu ddangos y pastwn, a dweyd, "ar ol i mi hebrwng y gŵr da allan o'ch cyrhaedd, mi gaf siarad â chwi." Ond unwaith, pan y dychwelai Lewis Rees heb ei warcheidwad, trwy y lle peryglus, bu raid iddo arfer dichell, trwy gocio ei het, gyru ei geffyl, galw am