Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trwy ei lusgo gerfydd ei napcyn (handkerchief); a diau y syrthiasai mewn llewyg yn y fan, oni bae i'r napcyn lithro oddiam ei wddf.

Yr oedd Jenkin Morgan, yr ysgolfeistr y soniasom eisoes am dano, wedi dyfod i'r dref i wrando Mr. Harris; ac felly, yr oedd yn nod neillduol i gynddaredd yr erlidwyr. Hwn, trwy ryw foddion, a gafodd afael yn ei geffyl, ac a wnaeth y goreu o'i ffordd i ddianc. Ond ar y ffordd, wrth ochr y llyn, craffwyd arno; tynasant ef oddiar ei geffyl; ac wrth ei lusgo i lawr, fe lynodd ei droed yn yr wrthafl. Y mae torlan uchel yn y fan hóno, a disgyniad serth o fin y ffordd i'r llyn. Gwnaed cais teg ar daflu y ceffyl ac yntau dros y dibyn, i'w dyfetha. Eithr Duw a'u lluddiodd yn ei ragluniaeth dirion.

Sicrheir i ni gan wŷr credadwy, fod trychineb cyffelyb i un barnol wedi goddiweddyd amryw o'r rhai a flaenorent yn yr ymgyrch annynol uchod. Dywedir am y dyn a daflodd y gareg gyntaf i'r tŷ, ei fod, wrth ddyfod adref o ffair, wedi syrthio oddiar ei geffyl, a thori asgwrn ei gefn, a marw mewn canlyniad. Dywedir am ddyn arall, yr hwn oedd fwyaf haerllug am fwrw Mr. Harris dros ryw ddibyn i ddwfr dwfn, ei fod ei hun wedi syrthio i lawr yn fuan wedi'n, o fewn ychydig gamrau i'r lle, a marw yn y fan. Gŵr ieuanc grymus arall a syrthiodd oddiar ei farch, gan ddisgyn ar ei ben ar gareg, ac a fu farw mewn mynyd. Erlidiwr creulawn arall a syrthiodd mewn llewyg farw, gan wŷn gyffrous wrth guro Mr. Harris; ac er iddo ddadebru, a dyfod ato ei hun ar ol hyny, ei fod yn mhen ychydig flynyddau wedi marw mewn modd truenus, gan gnofeydd ei gydwybod o herwydd anwiredd y diwrnod hwnw. Un arall, pan yn ei glefyd olaf, ydoedd mor ddrwg ei hwyl, a ffyrnig, fel nad oedd tri o ddynion cryfion ond prin yn abl ei luddias rhag cnoi ei ddwylaw a'i wefusau ei hun.

Fe deimla y darllenydd yn bryderus, hwyrach, yn achos Mr. Harris, pa beth a ddaeth o hono ar ol y maeddiad echrys hwn, ac i ba le yr aeth? I hyn ni a gawn ateb ganddo ef ei hun. "Felly (meddai), o'r diwedd, nyni a ddaethom ynghyd at ein gilydd drachefn i'r llety, ac a driniasom ein harchollion; darfu i'm hefyd gynghori a dyddanu fy nghyd-ddyoddefwyr, gan gydlawenhau am ein cyfrif yn deilwng i ddyoddef er mwyn enw Crist."

Nid oedd y gurfa hon, ni a welwn, wedi lleithio dim ar aidd ei ysbryd. Yr oedd ganddo gydwybod i'r gwirionedd a bregethai, a chariad at y Meistr y safai drosto: tosturiai wrth anwybodaeth y bobl, ac wrth greulondeb eu blaenoriaid; a phenderfynai, er pob enbydrwydd ac anfri, lafurio yn egniol i ddwyn ei gydwladwyr i wybodaeth o'r gwirionedd, fel yr oedd yn yr Iesu. Ac yn y teimladau hyn yr aeth rhagddo tua sir Gaernarfon.

Daeth i Bwllheli ar nos Sadwrn; a gofynodd foreu Sabboth, pa le yr oedd y pregethwr goren yn yr eglwys yn y parthau hyny? Dywedwyd wrtho fod y Canghellwr (Chancellor) yn pregethu yn agos yno, sef yn Llanor. Aeth yno, a chlybu bregeth y fath na chlywsai erioed o'r blaen ei chyffelyb. "Mi a glywais y fath bregeth (meddai), y tybiais ynof fy hun, na allasai meddwl dyn byth ddychymygu ei chyffelyb." Clywsai y Canghellwr, tybygid, fod y