Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fath ŵr i'w ddysgwyl i'r wlad hóno; a thybiodd yn addas rybuddio ei wrandawyr o'u dirfawr berygl. Gosododd Mr. Harris allan fel cenad Satan, a gelyn Duw a holl ddynolryw. Dynododd ef fel gweinidog dros y cythraul, yn dwyllwr, ac yn au-broffwyd; ie, yn waeth na'r diafol ei hun, "oblegid (eb efe) nis gall hwnw weithredu yma yn mhlith dynion ond trwy y cyfryw offerynau. Galwaf arnoch, gan hyny, o gariad at Dduw a'i eglwys, ac at eich gwlad, i ymuno yn erbyn y fath ddyn ofnadwy, yr hwn a ddug gydag ef y fath wenwyn marwol, ag a ddinystriai, nid personau dynion yn unig, a'u meddiannau, ond hefyd eu heneidiau dros fyth fythoedd."

A chyfryw ymadroddion y llefarai y Canghellwr wrth ei blwyfolion, heb wybod fod yr anghenfil a ddynoethid felly ganddo, yn y fan a'r lle. Wedi darfod y gwasanaeth, aeth Mr. Harris at yr eglwyswr i ymddyddan ag ef yn nghylch gosod i fyny ysgolion Cymraeg yn y wlad, ac i ymliw ag ef o herwydd y bregeth. Ar hyn, deallwyd gan y bobl mai hwn yn wir oedd y dyhiryn y mynai y person iddynt ymgroesi rhagddo; ac yn y fan, ymbarotoisant i brofi mai gwir blant yr eglwys oeddynt, trwy ymosod ar y dyn dyeithr. Rhai a geisient gymeryd ei geffyl oddiarno, ac eraill a chwyrn-daflent y cerig at ei ben; eto, er hyn oll, fe ddiangodd o'u dwylaw heb gael nemawr niwed. "Fel hyn y bum (meddai Harris ei hun) mewn mawr beryglon yr holl wythnos hono, a thybiais lawer gwaith na chawn byth genad i ddychwelyd yn fyw o'r parthau hyny."

Sicrheir i ni gan Mr. Robert Jones, mai yn Nglasfryn-Fawr y pregethodd Mr. Harris y tro cyntaf yn sir Gaernarfon. Nid oes hanes genym ddarfod iddo gael cyfle i ddweyd dim dros Grist yn gyhoeddus, o'r Bala hyd nes y cyrhaeddodd dŷ William Pritchard. Gyda'i fod yn dechreu pregethu yno, dyma offeiriad y plwyf, â haid o oferwyr gwamal yn fraich iddo, yn dylyn ei sodlau. Rhuthrodd yr offeiriad yn mlaen at y pregethwr, yr hwn, wrth weled terfysg yn dechreu, a roes heibio bregethu, ac a aeth ar ei liniau i weddio. Yr offeiriad yntau, er mwyn lluddias i neb ei glywed, a roddodd ei law ar ei enau. Cododd Mr. Harris i fyny, a dywedodd ;

"Pa beth?-a rwystrwch chwi ddyn i weddio ar Dduw? Byddaf yn dyst yn eich erbyn am hyn yn y farn."

"Byddaf fi yn dyst yn dy erbyn di, y burgyn budr," ebe'r offeiriad, "am fyned ar hyd y wlad i dwyllo y bobl."

Ar hyn, galwodd yn groch ar un o'i ffyddlon ganlynwyr i ddyfod yn mlaen. Ond sefyll draw yr ydoedd ac wrth eu clywed yn son am y farn, a ddywedodd:

"A glywch chwi, a glywch chwi ar y gwŷr! Ni wn pa un ffolaf o honoch eich dau. Ni feiddia un o honoch ddweyd gair yno."

Ar hyn, troes gŵr y tŷ yr offeiriad allan, a chauodd y drws ar ei ol. Cynygiodd Mr. Harris bregethu eilwaith wedi llonyddu y cythrwfl; ond ni chafodd nemawr o rwyddineb, am fod ei feddwl wedi cyffroi.

Y lle nesaf y pregethodd ydoedd Ty'n Llanfihangel, gerllaw Rhyd-yClafdy. Trwy fod y son ar led y wlad mai gŵr a welsai weledigaeth ydoedd,