Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

restrodd, neu fel y dywedir yn gyffredin, recordiodd ei dŷ i bregethu ynddo ; a bu pregethu ynddo tra y bu ef byw. Harri Thomas a fu byw yn Bwlch-y-Fen: gwnaeth yr un peth a'i frawd â'i dŷ yntau; a phregethid yn y ddau, yn un ar Sabboth y boreu, ac yn y llall y prydnawn. Bu pregethu yn nhŷ Thomas Thomas, y brawd arall, sef yn Mhen-yr-Allt, Hen Eglwys, tra y bu byw. Wele bedwar o'r un teulu wedi eu hanrhydeddu gan y Duw mawr â'r uchafiaeth nodedig o fod yn flagur cyntaf y diwygiad yn y wlad hòno. Bu Harri Thomas yn fendith i ŵr o'r enw William Thomas Owen, ac i'w deulu. Y gŵr hwn a fu byw, efe a'i fab Thomas, yn y Ty-Mawr, Llantrisaint; a derbyniasant bregethu i'w tŷ. Yr oedd i'r gŵr olaf hwn wraig hynod am ei gwasanaeth i'r efengyl; a'i chwaer hefyd oedd ferch dduwiol. Bu ei chwaer fyw yn Llanllibio; parhaodd yn fywiog a deffrous ei holl ddyddiau; a bu, trwy ei ffyddlondeb a'i llafur diflino, yn fendith i lawer.

Wele faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei enyn! Yr oedd y dechreuad hwn yn fychan; ond ei ddiwedd a gynyddodd yn ddirfawr. Dechreuodd mewn un teulu; a dechreuodd mewn dull dystaw a dirgelaidd, trwy ddarllen gan bwyll "eiriau y fuchedd hon." Duw a ddygodd dystiolaeth i air ei ras, ac a gododd y teulu hwn, fel offerynau dinerth a dyddim ynddynt eu hunain, i fod yn gychwyniad rhyfeddol i achos y Cyfryngwr yn y wlad hóno. "O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni!"

Ymddengys fod yr anesmwythder crefyddol wedi dechre yn meddyliau meibion Thomas Pritchard o'r Ty-Gwyn, amryw flynyddoedd cyn iddynt gael mwynhau gweinidogaeth yr efengyl. Os yn y fl. 1730 y dechreuodd y difrifwch arnynt hwy, y mae yn rhaid i lawer blwyddyn dreiglo heibio cyn iddo gael nemawr ymgeledd trwy foddion cyhoeddus o ras; nid llai na 12 neu 13 o flynyddoedd. Darllenwn mai tua'r fl. 1742 y gyrwyd William Pritchard i ymofyn am le i breswylio o Lasfryn Fawr, ac i Blas Penmynydd yn Mon y daeth. Gan fod yr amgylchiad yn dwyn cysylltiad arbenig â chychwyniad y diwygiad yn Môn, tueddir yr ysgrifenydd, gan dybied mai nid anfoddhaol fydd hyny gan y darllenydd, i olrhain amgylchiadau y tro hwn yn fwy manwl.

Yr achos i William Pritchard symud i Fon i breswylio, oedd gelyniaeth y Canghellwr Owens ato. Ac fel hyn y dywedir y bu: Dygwyddodd i W. Pritchard, gan y son a glywsai am y canghellwr, fyned un tro i wrando arno i Lanor. Wedi iddo ddyfod allan o'r llan, gofynodd rhyw un iddo,—

"Paham y daethoch chwi i wrando y Canghellwr? a ydych chwi yn hoffi ei athrawiaeth ?"

Nac ydwyf," ebe yntau, "yn caru mo'ni, na dim o'r fath."

"Pa'm hyny, William?" ebe y gŵr.

"Am ei fod yn dywedyd anwiredd," ebe yntau, "ac heb fod yn unol â gair Duw."

Yn fuan ar ol hyn, cafodd ei wasanaethu â gwŷs, gan ringyll llys eglwysig Bangor, i ateb am y sarhad a roddwyd ganddo ar y canghellwr. Blin iawn iddo a fu yr erlyniad hwn. Methai a chael neb i'w amddiffyn. O'r diwedd,