Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mhlith gelynion William Pritchard un gŵr mwy ei elyniaeth ato na'r lleill, yr hwn hefyd oedd yn lled alluog yn y byd; dylynwyd ef yn hyn yma gan rai o'i eppil, hyd nes o'r diwedd, fel pe buasai amynedd dwyfol wedi blino arnynt, i farn amlwg ac arbenig ddisgyn ar un o honynt.

Ond er i William Pritchard gael amddiffyniad y gyfraith drosto, a pheri gradd o ofn ar yr erlidwyr ei ddrygu yn ei feddiannau, oblegid y gosb; eto, nid oedd eu llid ato oblegid ei grefydd un mymryn yn llai, a newidiasant eu dull o ymosod arno. Lluniwyd achwyniadau anwireddus arno wrth ei feistr tir; sef ei fod yn offeryn i ddwyn heresiau dinystriol i'r wlad, a'i fod yn anfoddog i'r llywodraeth, a chyfansoddiad y deyrnas; a'r canlyniad a fu, ei droi allan o Blas Penmynydd. Symudodd oddiyno i Fodlew Fawr, yn mhlwyf Llanddaniel, yn y fl. 1745. Nid oedd ymddygiad pobl yr ardal hóno ddim gwell tuag ato na'r lleill. Rhaid oedd iddo gadw ci mawr i'w amddiffyn ar hyd y ffyrdd, gan mor ddygasog oedd pobl yr ardaloedd wrtho. Prynodd un dyn yn Niwbwrch gyllell fawr, o wir ddyben i'w ladd; aeth i'w dŷ i'r dyben hyny; ond ar ei ddyfodiad, yr oedd y gŵr yn darllen pennod, ac yn gweddio gyda'i deulu. Synodd y dyn yn ddirfawr, a dywedodd, "Os hyn ydyw arfer y bobl hyn, yn enw y Mawredd, ni chânt niwed oddiwrthyf fi." Cyfaddefodd ei fwriad gwaedlyd, ac aeth adref yn heddychol. Dyoddefodd William Pritchard lawer o anmharch wrth fyned i farchnadoedd Caernarfon; ac yn fwyaf oll gan wŷr eglwysig, y rhai a ddannodent iddo mai" efe a ddechreuodd daenu sismau a heresiau ar hyd y wlad, i ŵyrdroi pobl ddiniwed i gredu celwydd, ac i wadu yr eglwys." Cefnogid y werinos i ddangos pob sarhad iddo, trwy esiamplau eu hathrawon; a thybiai llawer o honynt mai difai oeddynt, er yr holl gamwri a wnaent iddo. Nid oedd llonyddwch iddo gael; aed i'r lle yr elai, yr oedd tafod rhyw gi yn ei gyfarth, a gwarthrudd rhyw ddyhiryn yn ei sarhau.

Un tro, fel yr oedd yn dychwelyd adref o Gaernarfon, dros Foel-y-don, dygwyddodd fod un Mr. Morris, o le a elwid Paradwys, gŵr a gyfrifid yn un o gewri y wlad, yn croesi yr afon ar yr un amser. Y dyn hwn, wedi ei gynhyrfu gan ddiod gref, ond odid, ac yn dymuno dangos ei fawr nerth a'i wroldeb, yn gystal a'i elyniaeth at y crefyddwr, a ddechreuodd ffonodio William Pritchard a'i geffyl yn ddidrugaredd, gan dyngu a rhegu yn ysgeler. Parhaodd i wneyd hyn ar ol dyfod i'r lan. Gofynodd William Pritchard iddo, "Paham yr ydych yn fy nghuro heb un achos ?" "Y mae hyny yn ormod o barch i ti," ebe yntau, a'r ysbryd drwg lon'd ei safn. Pan welodd William Pritchard nad oedd un tebygolrwydd y ca'i ef lonydd ganddo; a chan nad oedd yno neb i'w amddiffyn, neu ynte yn tueddu i wneyd, fe dybiodd mai ei ddyledswydd ydoedd amddiffyn ei hun; rhuthrodd iddo, a thaflodd ef i lawr, a llusgodd ef gerfydd ei draed ar hyd y gro, nes torchi ei ddillad, a pheth o'i groen hefyd. Newidiodd y gŵr ei dôn erbyn hyn, a gwaeddai arno, er mwyn Duw, arbed ei fywyd. Parodd yr amgylchiad hwn radd o arswyd William Pritchard ar y trigolion, fel na feiddiodd neb o hyny allan gynyg ymosod yn bersonol arno byth mwyach.