Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gylchiad yn un anarferol, a pharodd grediniaeth gyffredinol yn mhlith trigolion y gymydogaeth hòno, mai arwydd ydoedd o gymeradwyaeth y Goruchaf i'w waith ef yn amddiffyn y pregethwr.

"Pan oeddwn ar daith yn Lleyn yn sir Gaernarfon," ysgrifena y Parch. William Roberts, Amlwch, "gofynwyd i mi gan hen ŵr parchus, a wyddwn i am le yn Mon o'r enw Llysdulas. Atebais y gwyddwn. 'Wel (ebe yntau), dyna y lle cyntaf yn Mon lle yr amddiffynwyd achos yr anghydffurfiwr; a dywedaf i chwi pa fodd.' Yna efe a adroddodd yr hanesyn canlynol, am wirionedd yr hwn nid oes lle i amheu.

"Tua'r flwyddyn 1740, daeth hen weinidog ymneillduol i ymweled ag Amlwch a'i chyffiniau, i bregethu yr efengyl yn mhob lle y rhoddid derbyniad iddo. Dygodd hyn arno erlidigaeth ffyrnig oddiwrth y werin afreolaidd, a rhai o'r boneddwyr. Cyrhaeddodd y swn am ei helbul yn fuan i glustiau -Lewis, Yswain, Llysdulas, un o hynafiaid y pendefig presenol, arglwydd Dinorben. Gwahoddodd y boneddwr un Mr. Bulkeley, o'r Bryndu, yr hwn oedd un o'i gyd-ynadon, ac yn un o henafiaid W. B. Hughes, A. S., i ddyfod ato i Lysdulas. Wedi ychydig o gyd-ymgynghoriad, anfonwyd i gyrchu yr hen bregethwr i ymddangos o'u blaen yn mhalas Llysdulas. Wedi cynull yr holl deulu i'r neuadd, ebe Mr. Lewis wrth y gŵr dyeithr, 'Yr ydym ni yma fel teulu Cornelius y canwriad gynt, i wrando dy bregeth; a rhaid i ti bregethu i ni yn awr yr hyn a fyddi yn arfer ei bregethu ar hyd y wlad.' Hyn hefyd a wnaeth y pregethwr. Wedi iddo orphen ei bregeth, y boneddwyr a ddywedent, Os hyn ydyw trosedd y truan hwn, ni a ddylem amddiffyn ei ryddid, a dystewi ei erlidwyr.' Hyny hefyd a wnaethant; ac ni feiddiodd neb o hyny allan orthrymu pregethwyr yr efengyl yn y wedd hyny yn yr ardal hóno.'

Clywais fod Mr. Roberts wedi cael cyfle yn ddiweddar i adrodd yr hanesyn uchod i'r hen bendefig arglwydd Dinorben, yn Llysdulas, y palas a adgyweiriwyd gan ei berchenog presenol, ond a enwir fyth ar yr un enw. Gwrandawai yr hen foneddwr yn astud ar y chwedl, a dangosai fawr gymeradwyaeth o ymddygiad ei hynafiad; a sicrhâai i Mr. Roberts, mai ei ddymuniad ef oedd i bob un gael perffaith ryddid i addoli Duw yn y ffordd a gymeradwyai ei gydwybod ei hun. Gellir chwanegu mai yn ol yr egwyddorion diragfarn uchod y mae ei arglwyddiaeth wedi ymddwyn yn wastad tuag at ymneillduwyr.

Dywedir yn yr hanesyn hwn, mai yn y fl. 1740 y bu hyn. Rhaid, ynte, fod hon yn bregeth gyntaf gan ymneillduwr yn Mon, am yr hon y mae genym un crybwylliad. Tybiodd rhai mai y Parch. Lewis Rees oedd y cyntaf; ond ni ddaeth y gŵr hwnw i wlad Mon hyd y fl. 1743, fel y crybwyllasom eisoes. Fe ddichon, ar yr un pryd, mai rhyw ymweliad achlysurol oedd hwn; a chan ei fod yn dygwydd tua'r un amser ag y cyfeiria Robert Williams, y gôf, ato, temtir ni i feddwl mai Risiart William Dafydd oedd yr hwn a fu o flaen yr ynadon uchod. Eto, nid oes genym un sicrwydd am hyn; a phe yr un oeddynt, nid oes genym awgrym yn y byd pwy a