Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bynu yr hyn ydyw Cymru yn awr â'r hyn ydoedd y pryd hyny; ie, rhoddasid i ni olwg gryno ar ysgogiadau a chynydd Methodistiaeth, o'i gychwyniad ymron hyd ddechread y ganrif bresenol;—ond ofer ein dymuniadau. Mae ei lafur a'i lwyddiant i raddau mawr ynghudd, hyd "ddydd dadguddiad meibion Duw." Myn y Gwaredwr yr anrhydedd o ddadgan yn y dydd hwnw, pa beth a wnaeth ei ras a'i Ysbryd trwy yr offeryn hwn, ac i gyhoeddi yn ngwydd y bydoedd cynulledig, pa garedigrwydd mor fawr a wnaethai Lewis Evan i'w achos pan ydoedd eto mewn amgylchiadau o iselder ac amddifadrwydd.

Bu farw yn y fl. 1792, yn 72 ml. oed, ac aeth i dangnefedd. Canodd nai i Lewis Evan James Lewis, farwnad iddo, a rhoddir yma y pennill cyntaf:

"Hunodd un o'r hynaf dadau,
Mewn tawelwch ehedodd adrau;
Ffyddlawn fu i'r gwr a'i galwodd,
Tros ddeg-a-deugain o flynyddoedd:
Lewis Evan oedd ei enw,
Hysbys iawn i bawb oedd hwnw:
P'le benna'i le, mewn gwlad a thre',
Fe fydde'n ofalus,
O lwybrau'i berchen byddai'n barchus,
O flaen y byd ynghyd a'r eglwys.
Dywedai'i brofiad yn bur groyw,
Wrth un o'i frodyr, cyn ei farw:
"Tawelwch mawr sydd yn awr,
Tan ddwylaw'r cawr creulon,
Mae'r Iesu i mi'n llawn ddigon,
Ffarwel, 'rwy'n myn'd i ffrydiau'r afon.'

Ni ddaeth i lawr hyd atom ni nemawr o hanes y cynghorwyr a gydlafurient gyda Lewis Evan a Richard Tibbot yn nechread y diwygiad Methodistaidd. Ac ni ddywedir i ni, ychwaith, trwy ba foddion yr ennillasid hwy at grefydd. Mae yr hanes sydd genym am y blynyddoedd rhwng 1739 a 1751, yn aros yn dywyll a dyrys iawn. Yn 1739 y daeth Howel Harris gyntaf i'r wlad; ac yn y fl. 1751 y bu yr ymraniad rhyngddo ef a Mr. Rowlands. Rhwng y ddau gyfnod hyn yr ydym yn deall, wrth gofnodau Trefeca, fod yma rai eglwysi—neu fel y'u gelwid, cymdeithasau bychain-wedi eu crynhoi, ac amryw o bregethwyr wedi eu codi. Sonir am gymdeithasau Llanbrynmair, Llanllugan, Llandinam, Llanfair, Llangurig, Tyddin, Mochdre, Llanidloes, Llanwyddelan, a Bwlch-y-cae-haidd. Nid oedd y cymdeithasau hyn ond bychain, ac yn cael eu cynal mewn tai anedd, gan mwyaf, os nad pob un; gan nad oedd yr un tŷ-cwrdd, neu gapel, eto wedi ei godi mewn unman yn y Gogledd, os nad oedd yn Adwy'r Clawdd, yn sir Ddinbych. Yn y fl. 1743, yn ol yr adroddiad a anfonai Tibbot i'r gymdeithasfa, nid oedd yn Llanbrynmair ond chwech o aelodau. O'r chwech yna yr oedd tri yn frodyr, fel y crybwyllwyd o'r blaen, y rhai gyda Richard Humphrey a argyhoeddwyd dan weinidogaeth Howel Harris, y tro cyntaf ond odid y bu ef yn Ngwynedd. A chyda'r pedwar a enwyd, yr oedd dau eraill o'r enw William Hughes a Humphrey Dafydd. Prin yr oedd cymdeithas Llanfair eto wedi ei dwyn i un math o drefn, er fod yno tua deuddeg o rai yn ymofyn