Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am ymgeledd ysbrydol. Yr oedd tuag ugain yn Llanllugan, gan mwyaf yn ieuainc, a thua deuddeg yn Mochdre. Yr oedd Llandinam yn lluosocach ei haelodau nag un man arall ar y pryd. Dywedir yn yr adroddiad, fod yma ddeugain o aelodau, a phedwar o gynghorwyr anghyhoedd. Y cynghorwyr hyn oeddynt, Benjamin Cadman, Evan Jenkin, Reinallt Cleaton, Evan Morgan.

Fe ddyry adroddiad Richard Tibbot i'r gymdeithasfa, yn y fl. 1744, olwg mor gryno ar agwedd yr achos Methodistaidd yn sir Drefaldwyn, ag a ellid ei gael trwy ddim arall. Dyma fe:

"Ni ddygwyddodd ymron ddim anghyffredin yn mysg y cymdeithasau hyn er y gymdeithasfa ddiweddaf. Mwynheir llawer o ryddid, (sef rhyddid allanol oddiwrth erlidigaeth) i ymgyfarfod ac i gynghori; ond eto, ychydig o ddynion cnawdol a ddeffrowyd, ac ychydig o arwyddion sydd o gyfnewidiad cywir ac achubol ar ond ychydig. Mae y rhai sydd yn aelodau, yn myned rhagddynt yn lled dda, tybygid; ac wrth ystyried cyflwr truenus a thywyll dyn wrth natur, gwerthfawr ydyw gweled cynifer o arwyddion gras a sancteiddhad ag a welir mewn llawer; ond wrth edrych, ar y llaw arall, ar ragoroldeb y grefydd Gristionogol, a rhyfeddol gariad Duw yn Nghrist;—ar werthfawrogrwydd y pethau a gynwysir yn y cyfammod newydd, addewidion Duw, a doniau y prynedigaeth, &c., blin ydyw gweled leied sydd o wybodaeth ysbrydol a phrofiadol;—mor ychydig sydd o fywyd santaidd a nefol yn gyfatebol, fel y gweddai i saint, ac yn neillduol i'r rhai sydd yn aelodau o'n cymdeithasau ni. Nid ydynt ond ieuainc mewn gras; ac felly, mwy dewisol ganddynt, gan amlaf, gael gradd o deimlad gwych a hwyliau uchel, nag ymborthi drwy ffydd ar bethau mawrion Duw (pethau y dysgwyliwn lawn fwynhad o honynt yn fuan). Am fod eu ffydd yn wan, a'u bod mewn rhan yn colli y gweithrediad o honi pan y collont yr hwyl a'r teimlad, y mae eu bod yn fabanod, ac y mae yn rhaid iddynt wrth laeth, ac nid bwyd cryf.

"Mae yma rai drysau newyddion yn ymagor yn ddiweddar i dderbyn y gair, a lle i gredu fod gan Dduw waith i'w wneuthur yn ei amser ei hunan. Y mae yma gymdeithas newydd yn mhlwyf Llanllugan;—maent yn ddiwyd iawn yn dyfod ynghyd amrywiol weithiau yn yr wythnos, a sail i gredu fod rhai wedi eu hargyhoeddi. Mae drws wedi agor hefyd tudraw i Lanfair, yn mhlwyf Llangynog, lle y mae rhai cannoedd yn dyfod i wrando; ond gan mwyaf y maent yn dra ysgeifn. Aeth un brawd i dragwyddoldeb er mis Mai, sef Dafydd o Lanfair: yr oedd yn oleu a chysurus iawn arno yn ymadael, heb un gradd o amheuaeth ganddo nad oedd yn myned at Grist. Mae cymdeithas Llanfair yn lled ddiwyd yn dyfod ynghyd, a chan rai brofiadau rhagorol am waith gras. Mae gradd o farweidd-dra ar yr hen gymdeithas yn Llanllugan. Y maent yn awr yn fwy diwyd yn Mochdre i ddyfod at eu gilydd; eto, ychydig sydd yn adnabod gwaith gras. Mae cymdeithas Tyfyn yn lled dda; cwyna rhai eu bod yn farwaidd; mae eraill yn lled