Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni bu y cyntaf o'r tri uchod yu hir ar y maes. Gorphenodd ei lafur a'i ddiwrnod yn bur fuan, tra yr ydoedd eto heb golli ei gariad cyntaf. Yr oedd yn ŵr dichlynaidd a chrefyddol iawn yn ei deulu; diwyd yn ymweled â chleifion ei gymydogaeth, gan eu hegwyddori, a'u cysuro yn eu hadfyd; ac yn ŵr a fawr berchid gan bob graddau yn ei ardal. Pan ar ei glaf wely, daeth amryw o'i gyfeillion i ymweled ag ef o bryd i bryd, a chawsant ef yn gysurus ei deimladau wrth feddwl marw, gan ofyn iddynt ganu y pennill hwn:

O dowch, blant Seion, yn ddioed,
A chenwch glod yn gyson,
I'r addfwyn Iesu, Brenin nef,-
Fe ddygodd ef fy nghalon.

Mae Dafydd Powel, o ran ei weddillion, wedi ei osod yn y bedd er ys dros gan mlynedd; ond yr oedd rhai o'i deulu yn aros yn mhell ar ei ol ef, ac yn rhodio yn ei lwybrau; a hwythau hefyd a fuont feirw. Dywed Mr. Jones, o Bentyrch, fod merch iddo unwaith yn cyd-deithio gydag ef i Langeitho. "Pan aethum (meddai) i gyfarch y Parch. D. Rowlands, dywedodd wrthyf (drwy fod fy lleferydd yn fy nghyhuddo), Bachgen o sir Drefaldwyn wyt ti. Gwelais ferch i Dafydd Powel yma gyneu; druan o honi, yr oedd yn dda gan fy nghalon ei gweled: mae ei thad yn y nefoedd er ys talm."

Cawn grybwylliad byr am dano mewn cysylltiad ag Evan Dafydd, yn Nghofnodau Trefeca. Dywedir fel hyn gan Richard Tibbot, yn ei adroddiad i'r gymdeithasfa, yn y fl. 1743,—"Y mae genym le i gredu fod gan Dduw waith i'w wneuthur yn eu mysg. Fe fu dau dan ymchwiliad, Dafydd Powel ac Evan Dafydd. Mae y ddau yn rhodio mewn cariad a gwresogrwydd, ac yn dra chysurus."

Teimlodd y wlad hon oddiwrth effeithiau galarus yr ymraniad yn y fl. 1751. Llwfrhaodd Dafydd Jehu i raddau mawr gyda'r gwaith o hyny allan, er y bernid, ar un pryd, yn dda am ei grefydd; ond o hyny allan, ni fu nemawr a wnelai yn gyhoeddus â Methodistiaeth hyd ddiwedd ei oes. Aethai Benjamin Cadman eisoes at yr ymneillduwyr. Yr oedd effeithiau yr ymraniad mor rymus a dinystriol ar yr eglwysi bychain, a'r cynghorwyr ieuainc, fel y gellid tybied fod difrod llwyr wedi disgyn ar y cwbl ymron, a hyny dros amryw flynyddoedd. Edrychwn, gan hyny, ar y cyfnod hwn fel adeg hynod i derfynu ein hanes ar gychwyniad Methodistiaeth; ac hefyd i gychwyn, eilwaith, ar ein holrheiniad o gynydd Methodistiaeth, yn y dosbarth nesaf o'r gwaith hwn.

Ond cyn rhoddi heibio hanes y sir hon yn y tymhor boreol hwn arni, cymhwys ydyw crybwyll am daith gyntaf y Parch. Peter Williams iddi yn y fl. 1746. Yr oedd wedi bod yn pregethu yn Llangeitho eisoes, ac oddiyno fe'i cyfarwyddwyd i Lanidloes. Ni all nad ieuanc iawn oedd achos y Methodistiaid yn Llanidloes ar y pryd, os yn wir fod yno un gangen o eglwys eto wedi ei ffurfio. Hysbyswyd i Mr. P. Williams, er hyny, fod yno ddyn yn caru yr Arglwydd, ac am hyny yn dda ganddo dderbyn pregethwr i'w