Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byddiaeth ag ef yn Llandrindod; ac at y gŵr hwn y cyfeiriodd ei gamrau, a derbyniodd pob croesaw ganddo. Tranoeth, fe alwyd arno i bregethu yn nhŷ un o dyddynwyr y boneddwr, a theimlai ei enaid yn adfywio gan y mwynhad a brofai yn y gwaith, a phrofai ymroad adnewyddol i fyned rhagddo, er maint y rhwystrau a'r blinderau ag oedd yn ei aros. Y cyfryw ydyw swm yr hanes a ddyry y gŵr parchedig am ei ymweliad cyntaf erioed â sir Drefaldwyn.

Hyd yma y cyrhaedd yr hanes sydd genym am ysgogiadau Methodistiaeth yn sir Drefaldwyn, cyn yr ymraniad yn y fl. 1751. Gan fod yr hanesion eraill sydd genym yn perthyn i gyfnod diweddarach, yr ydym yn eu gadael yn awr, gan addaw galw sylw y darllenydd atynt yn y Dosbarth canlynol, pryd y rhoddir golygiad ar gynydd Methodistiaeth yn y De a'r Gogledd, o'r pryd hyny hyd yn awr; o leiaf, i'r graddau y caniatâ y defnyddiau i ni wneyd felly.

PENNOD VI.

YSGOGIADAU CYCHWYNOL YN SIROEDD DINBYCH A FFLINT HYD YR YMRANIAD,

CYNWYSIAD:

GWAWR METHODISTIAETH YN ARDALOEDD LLANRWST A LLANSANAN—JOHN RICHARDS O FRYNIOG—DAFYDD WILLIAM RHYS AC EDWARD PARRY, BRYNBUGAD—EFFAITH YR YMRANIAD—ADWY'R CLAWDD—DAFYDD JONES O'R ADWY—ERLID PETER WILLIAMS YNO—ERLIDIGAETH CHWERW YN NINBYCH—LLANSANTFFRAID-GLAN-CONWY—ROBERT LLWYD, PLAS ASHPOOL—PREGETHU YN NYFFRYN CLWYD—JOHN OWENS O'R BERTHEN-GRON.

MAE y darluniad a roddwyd eisoes o Gymru yn gyffredinol, o ran ei gwedd grefyddol, neu yn hytrach anghrefyddol, yn gymhwys i raddau mawr i bob rhan o'r wlad. Darlunio un ardal ydyw darlunio pob ardal. Yr un fath anwybodaeth a orchuddiai y dywysogaeth oll yn nechre 1700. Cyffelyb hefyd oedd arferion y werin, ac anghymhwysder yr offeiriaid. Nid oedd siroedd Dinbych a Fflint yn ffurfio un eithriad oddiwrth y wedd gyffredin a anurddai rhanau eraill o Wynedd. Ysgrifena un gŵr ataf am sir Ddinbych: "Ymgrynhoai y trigolion yn finteioedd ar nos Sadwrn i'r tafarndai, ac ar y Suliau ymgasglent yn heidiau i leoedd penodedig yma ac acw ar hyd y wlad, i gynal twmpathau chwareu. Boreuau Sabboth, mynychent y llan i addoli, a'r fynwent y prydnawn i chwareu." Pa ddiniwefdrwydd bynag a haerir fod yn perthyn i drigolion yr oesoedd hyny, y mae yn dra amlwg mai diniweidrwydd paganaidd ydoedd, er fod enw Cristionogion arnynt;—pa dangnefedd a chydfod bynag oedd y pryd hyny mewn pethau crefydd, sicr ydyw mai tangnefedd y bedd ydoedd—dystawrwydd cysgod angau;—pa ymlyniad bynag a allai fod gan y trigolion wrth wasanaeth y llan, ni allai fod yn codi oddiar argyhoeddiad a barn, ond oddiar arfer a defod; nid oddiar eu bod yn derbyn llesâd trwyddo, ond eu bod wedi eu magu ynddo. Yr un modd hwy a ymlynent wrth eu campau ofer, a'u chwareuon ynfyd, nid am eu bod yn dda, ond am eu bod yn hen. Ie, yr oedd difyrwch y gamp, a gwasanaeth y llan,