Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hon, ymgynullai holl feibion a merched ieuainc y broydd i yfed ac i ddawnsio. Eisteddai yr hen bobl i edrych arnynt, ac i benderfynu pwy fyddai ennillwyr y gamp. Dybenai yr ŵyl hon, gan amlaf, mewn ymladdfa fileinig am yr oruchafiaeth, rhwng dau blwyf, ac nid anfynych y dygwyddai lladdiadau a thywallt gwaed. Yr oedd gwyliau y Nadolig yn adeg brysur gan ein hynafiaid hyn. Codent yn foreu ddydd Nadolig, i fyned i'r blygain i ganu carolau; dygai pob un ganwyll gŵyr yn ei law, a chyfleth yn nghîl ei foch, er mwyn pereiddio eu llais at y gân. Dyma'r gwasanaeth a elwid "Gosber Cantyllau." Rhoddid heibio y gwasanaeth un-ar-ddeg o'r gloch y boreu hwn; ond dychwelid adref o'r gwasanaeth plygeiniol gydag aidd ychwanegol at y ddiod neu y wledd, at y cardiau neu y bêl droed. Amser uchel iawn hefyd ganddynt oedd y Pasg a'r Sulgwyn. Ymbarotoent yn ddefosiynol dros ben at dderbyn y "cymun bendigedig;" ac wedi i'r difrifwch gormesol hwnw fyned heibio, ymdeimlent yn fwy ysgafn-droed a gwisgi i ddylyn eu pleserau nag o'r blaen, yn gyffelyb fel y gwna y Gwyddelod pabaidd yn awr, wedi dadlwytho i fynwes eu Hathraw ysbrydol, yn y gyffesgell, eu hamryfuseddau."

Aeth heibio ran helaeth o'r canrif 1700, cyn bod dim moddion effeithiol yn cael eu defnyddio i ymlid ymaith yr anwybodaeth a'r drygioni a orchuddiai y tir. Yr oedd y ffrwyth a gynyrchwyd trwy lafur Walter Cradoc, Vavasor Powel, Morgan Llwyd, a'u cydlafurwyr, gan mlynedd yn ol, wedi diflanu o'r golwg; a chan na fu iddynt olynwyr teilwng i godi y fantell a ddisgynasai oddiwrthynt hwy, yr oedd y wlad, erbyn dechreuad y deunawfed canrif, wedi dymchwel i'r un sefyllfa ag y buasai ynddi gynt. Ond yn yr ysbaid rhwng 1740-50, ymddangosai rhyw arwyddion gwawr wanaidd yn tori mewn rhyw barthau o sir Ddinbych. Yn yr adeg yma, ymwelai ambell bregethwr o'r Deheudir â rhai cyrau o'r wlad; ac yn eu mysg yr oedd Howel Harris. Yr oedd gweinidogaeth y dynion boreuol hyn, ac yn enwedig yr olaf, yn finiog ac effeithiol iawn. Nid hawdd y pryd hyny oedd cael cynulleidfa at eu gilydd. Nid oedd capelau wedi eu codi, ac nid oedd drysau y llanau yn agored iddynt. Aent heibio i'r trefydd, gan mor ffyrnig yr erlidigaeth ynddynt, a chyfeirient eu llwybr i ardaloedd mwy tawel a llonydd. Ond pa fodd y caent wrandawyr mewn lleoedd mynyddig, ac ardaloedd anaml eu preswylwyr, sydd i ni yn syndod, gan nad oedd ganddynt ar y dechreu neb yn y gwahanol leoedd yn gwybod am eu dyfodiad, ac yn barod i agoryd ei dŷ i'w derbyn. Arweiniai ymresymiad dynol ni i benderfynu, na allai y fath ymgais at ddeffro a goleuo y wlad, dan amgylchiadau mor anfanteisiol, lai nag erthylu; ond yn y gwrthwyneb y bu. Agorai rhagluniaeth ddrysau i'w derbyn yn fynych heb eu dysgwyl; gafaelai y pregethau diaddurn fel saethau llymion yn nghalonau y gwrandawyr; a chodid rhyw rai yn ebrwydd, yn yr amrywiol ardaloedd, i sychedu am glywed drachefn yr un gwirioneddau. Yn y modd yma, ennillid yma ac acw ar hyd y gwledydd ychydig o gyfeillion gwresog a charedig, i ymofyn am bregethwyr i ymweled â'u hardaloedd drachefn, ac i ragbarotoi erbyn eu dyfodiad.