Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Crynion Crafnant," ar grefyddwyr yr ardaloedd hyny. Yr oedd John Richards, fel eraill o'r pregethwyr Methodistaidd boreaf, yn arfer pregethu gerllaw mynwentydd y llanau, ar yr adeg y dysgwylid i'r gynulleidfa ddyfod allan o'r llan, gan yr anhawsder a deimlid y pryd hyny i gael y bobl ynghyd ond ar adegau o'r fath ag y byddent eisoes yn ymgynull at eu gilydd. Ond ni fu ei yrfa yn faith. Cyrhaeddodd ben ei daith yn fuan. Yn nghanol ei ddyddiau, fe derfynodd ei oes; oblegid efe a fu farw yn y fl. 1761, pan nad oedd eto ond 44 mlwydd oed.

CANOL-BARTH SIR DDINBYCH—TAN-Y-FRON, PLWYF LLANSANAN.

Mae enw Tan-y-Fron yn adnabyddus fel hen faethle Methodistiaeth, er yr amser boreaf ar y diwygiad yn y wlad hóno. Mae llawer merch iddi wedi rhagori arni o ran rhifedi ei meibion; eto, cyfrifir hi yn fam. Tan-y-fron a fu yn fammaeth i'r holl ganghenau eglwysi Methodistaidd, o Lansanan i Ddinbych o du y dwyrain, ac hefyd i'r rhai sydd o'r tu gogleddol iddi hyd Abergele a'r môr. Yr offeryn mwyaf nodedig a ddefnyddiwyd i ddwyn hyn o amgylch, oedd un Edward Parry, o'r Bryn-bugad, yn mhlwyf Llansanan. Difyr a dyddorol yn ddiau a fydd gan y meddwl ystyriol olrhain llwybrau rhagluniaeth a gras, yn dwyn amcanion y Jehofa mawr i ben, trwy foddion diolwg a digyfrif dros ben.

Dywedir i ni mai mewn oedfa yn Henllys, yn mhlwyf Llanfair-tal-haiarn, y teimlodd Edward Parry saeth argyhoeddiad gyntaf yn dwys-bigo ei galon. Naturiol ydyw gofyn, pa fodd y daeth pregethu i Henllys? Mae yr ateb a roddir i'r gofyniad yn un hynod, ac yn brawf na fydd ar y Duw anfeidrol byth ddiffyg moddion i ddwyn ei waith yn mlaen. Yr oedd gwraig weddw, o'r enw Margaret Conwy, yn byw yn Henllys, plwyf Llanfair, yn y fl. 1742. Dywedir i'r wraig hon freuddwydio ryw noswaith weled pobl lawer yn ymgynull at eu gilydd, mewn gwedd newydd a dyeithrol iddi hi. Gwnaeth y breuddwyd argraff dwfn iawn ar ei meddwl;—cofiai yr ardal, yr adeilad, gwedd y gynulleidfa, ac agwedd y gŵr a'u cyfarchai, mewn modd clir a diamheuol. Parodd y breuddwyd hwn gryn lawer o anesmwythder iddi; ac er y gellid meddwl fod yma raddau o ofergoeledd yn achosi yr anesmwythder hwn; eto, cafodd yr ofergoeledd, os ofergoeledd ydoedd, ei ddefnyddio ar hyn o bryd i ddyben teilwng, ac esgorodd ar amgylchiadau hynod a dyddorol. Ymofynodd y wraig â phawb o amgylch iddi, a oedd y fath ymgynulliad ag a welsai yn ei breuddwyd yn bod yn rhywle? Wedi iddi ei ddarlunio mor gywir ag y gallai, dywedodd rhywun wrthi, fod rhyw grynoad o'r fath a ddysgrifiasai yn cael ei gynal, yn awr ac eilwaith, mewn lle a elwid Llety-domlyn, yn agos i Lanrwst. Wedi deall hyn, aeth yn fwy anesmwyth fyth; ac er fod iddi bymtheng milldir a mwy i deithio yno, dros fynyddau uchel; eto, yno yr aeth. Ar ddyfodiad Margaret i'r lle, gwelai yn y fan, fod y maesydd, y wlad, y tŷ, y bobl, y pregethwr, oll yn gymhwys fel y gwelsai hwy yn ei breuddwyd. Dan yr amgylchiadau hyn, naturiol ydyw i ni feddwl y rhoddai y wraig glust astud i'r hyn a glywai. Yr oedd ei chyw-