Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Iddewon, fod "holl derfynau'r Hispaeniaid, a gwahanol dylwythau Gaul (Ffrainc), a lleoedd ym Mhrydain anghyraeddadwy i'r Rhufeiniaid, wedi eu darostwng gan Gristionogaeth."

ORIGEN hefyd, yr hwn oedd yn byw oddeutu dechrau'r drydedd ganrif, a ddywed: "Mae gallu Duw ein Gwaredwr gyda hwythau ym Mhrydain, y rhai a ddidolir oddi wrth ein byd ni."

ARNOBUS hefyd yn nechre y bedwaredd ganrif, a ddywed: "Am oesoedd lawer gynt, ni adwaenid y gwir Dduw ond yn eu mysg hwy o Judea yn unig; yn awr adwaenir ef yn mysg yr Indiaid yn y dwyrain, a'r Prydeiniaid yn y gorllewin." Meddai CHRYSOSTOM, yr hwn oedd yn oesi gan mlynedd diweddarach: "Mae Ynysoedd Prydain, y rhai sy'n gorwedd hwnt i'n môr ni, yn nghanol y cefnfor ei hunan, wedi teimlo grym y gair ; yno hefyd yr adeiladwyd eglwysi, ac y codwyd allorau." Yn yr un ganrif yr oedd THEODORET yn oesi, yr hwn wrth ddatgan llafur a llwyddiant yr apostolion, a dystia fel hyn: "Y pysgodwyr, y publicanod, a'r gwneuthurwyr pebyll hyny o'r eiddom a daenasant yr efengyl ar led yn mysg yr holl genedloedd: nid yn mysg y Rhufeiniaid yn unig, a'r rhai sydd ddeiliaid ymerodraeth Rhufain, ond hefyd yn mysg y Scythiaid, y Sauromatiaid, yr Indiaid, yr Ethiopiaid hefyd, y Persiaid, yr Hyrcaniaid, y Prydeiniaid, y Cimmeriaid, a'r Germaniaid; fel y gellir dywedyd, mewn gair, fod gwahanol dylwythau dynolryw wedi derbyn cyfreithiau yr un croeshoeliedig."

Mae tystiolaeth EUSEBIUS hefyd yn nodedig. Yr oedd y gŵr hwn yn esgob Cesarea, ac yn enwog hyd heddyw am ei ysgrifeniadau, yn enwedig ei hanesiaeth eglwysig. Yr oedd hefyd yn gyfaill mynwesol i'r ymerawdwr CWSTENYN, yr hwn, meddant, a anwyd yn Mhrydain, a'i fam Helena yn Gymraes. Gallwn feddwl fod Eusebius, oddiar ei berthynas â'r llys ymerodrol, a'i gyfeillgarwch â'r ymerawdwr, yn meddu yr hanes cywiraf. Fe ddywed yr hanesydd hwn wrth son am yr apostolion; "Fod rhai o honynt wedi myned tros y môr, ac wedi pregethu yr efengyl i'r rhai a elwid Ynysoedd Prydain."

Y mae genym yn chwanegol at yr awdwyr dyeithrol uchod, dystiolaeth cydwladwr. Y boreaf o haneswyr Prydain ydoedd GILDAS, brawd Aneurin, ac un o dywysogion y Gogledd. Wrth grybwyll am ddymchweliad yr hen Frythoniaid dan Buddug (Boadicea), yn O.C. 60 neu 61, fe ddywed : "y cyfamser, amlygodd Crist, y gwir Haul, ei belydrau dwyfol, yn tra-rhagori ar oleuad y ffurfafen, gan roddi adnabyddiaeth o'i ddeddfau i'r ynys hon.' Y mae cryn ymchwiliad wedi bod, a fu neb o'r apostolion eu hunain yn pregethu yn yr ynys hon, ac os bu, pa un, neu pa rai o honynt a allasent fod. Wrth olrhain yr ymchwiliadau hyn, addefaf fod sail i gasglu fod un o leiaf o'r apostolion wedi bod yma, a'r un tebycaf oedd yr apostol Paul: eto, nid oes ond lle i gasglu hyn, ac nid i'w sicrhau.

Barna rhai bod Paul wedi dyfod i Rufain i'w "ateb cyntaf" tua'r flwyddyn 56 neu 57: ac felly rhyddhawyd ef yn y flwyddyn 59. Oddi yno hyd ei ferthyrdod yr oedd wyth mlynedd, amser digonol iddo allu cyrraedd Prydain,